1Frodyr, hyd yn oed os goddiweddir dyn mewn rhyw drosedd, chwithau, rai ysbrydol, atgyweiriwch y cyfryw mewn ysbryd addfwynder, gan edrych atat dy hun rhag dy demtio dithau.
2Dygwch feichiau’r naill y llall, ac felly, cyflawnwch ddeddf y Crist.
3Canys o thyb neb ei fod yn rhywbeth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae’n ei dwyllo’i hun.
4Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna, ynddo’i hun yn unig y bydd ei fost, ac nid mewn arall,
5canys fe ddwg pob un ei bwn ei hun.
6A chyfranoged y neb a hyfforddir yn y gair â’r sawl a’i hyfforddo, ym mhob peth da.
7Na thwyller chwi — Duw, nis gwatworir; canys pa beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed.
8Canys y neb a heuo i’w gnawd ei hun, o’r cnawd y med lygredigaeth; y neb a heuo i’r Ysbryd, o’r Ysbryd y med fywyd tragwyddol.
9Ac yng ngwneuthur y peth sydd dda, na lwfrhawn, canys yn y priod dymor, medwn, oni ddiffygiwn.
10Am hynny, ynteu, tra bo i ni gyfle, gwnawn i bawb y peth sydd dda, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.
11Gwelwch frased fy llythrennau, â mi’n ysgrifennu atoch â’m llaw fy hun:
12Cynifer ag sy’n mynnu teg-ymystumio o flaen dynion, cais y rhai hyn fod enwaedu arnoch, yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
13Canys hyd yn oed y rhai yr enwaedir arnynt, ni chadwant hwythau mo’r ddeddf, eithr mynnant fod enwaedu arnoch fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi.
14Ond amdanaf i, byth nad ymffrostiwyf onid yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r hwn y mae’r byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i’r byd.
15Canys nid yw nac enwaediad na dienwaediad ddim, — eithr creadigaeth newydd.
16A chynifer ag a gerdda wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ac ar Israel Salm 125:5, 128:6. Duw.
17O hyn allan na’m poened neb, canys myfi, dygaf nodau’r Iesu yn fy nghorff.
18Gras ein Harglwydd ni, Iesu Grist, a fo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.