1Ond am y doniau ysbrydol, frodyr, ni fynnwn fod ohonoch yn anwybodus.
2Gwyddoch eich arwain ymaith, â chwi eto’n ethnigion, at yr eilunod, fudion bethau, sut bynnag y’ch arweinid.
3Oherwydd hynny yr wyf yn hysbysu i chwi na ddywed neb a lefaro yn Ysbryd Duw, “Anathema Iesu,” ac na ddichon neb ddywedyd: “Arglwydd Iesu,” onid yn yr Ysbryd Glân.
4Ond y mae amryfal rannu ar ddoniau, eithr yr un Ysbryd;
5ac y mae amryfal ddosbarthu ar weinidogaethau, a’r un Arglwydd;
6a gwahanol foddau ar gyfrannu grymusterau, a’r un Duw y sy’n grymuso’r cwbl yng nghwbl.
7Ond i bob un y rhoddir amlygiad yr Ysbryd er llesâd.
8Canys i un drwy’r Ysbryd y rhoddir traethu doethineb, ac i arall draethu gwybodaeth yn ôl yr un Ysbryd;
9i arall eto ffydd drwy’r un Ysbryd, ac i arall ddoniau iacháu drwy’r un Ysbryd,
10ac i arall rymusterau nerthoedd, ac i arall broffwydoliaeth, ac i arall wahaniaethu rhwng ysbrydion, ac i arall amryw dafodau, ac i arall ddehongli tafodau.
11A’r rhai hyn oll y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu grymuso, gan gyfrannu i bob un ar ei ben ei hun fel y mynno ef.
12Canys fel y mae’r corff yn un, ag iddo aelodau lawer, a bod holl aelodau’r corff, er eu hamled, yn un corff, felly hefyd y Crist;
13canys drwy un Ysbryd y’n bedyddiwyd, ninnau oll, yn un corff, ai Iddewon ai Groegiaid, ai caethion ai rhyddion; ac ag un Ysbryd diodwyd ni oll.
14Canys y corff, nid yw un aelod, ond llawer.
15Os dywed y troed, “Gan nad wyf law, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff.
16Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf lygad, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff.
17Pe byddai’r corff i gyd yn llygad, mae’r clyw? Pe clyw fyddai i gyd, mae’r arogliad?
18Ond wele’n awr, Duw a osododd yr aelodau yn y corff, bob un ohonynt megis yr ewyllysiodd.
19Pe byddai’r holl aelodau yn un aelod, beth am y corff?
20Eithr yn awr, llawer aelod, ond un corff.
21Ond ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, “Nid rhaid imi wrthyt ti” nac ychwaith y pen wrth y traed, “Nid rhaid imi wrthych chwi.”
22Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau hynny o’r corff yr ymddengys eu bod yn wannaf sydd anhepgor;
23a’r aelodau hynny y sydd i’n tyb ni yn lleiaf eu parch, y rhai hynny a arwisgwn â pharch neilltuol; ac fe gaiff ein haelodau anweddaidd weddeidd-dra neilltuol,
24ond ein haelodau gweddus, nid rhaid iddynt wrtho. Ond Duw a gydnawseiddiodd y corff, gan roddi parch neilltuol i’r aelodau a fyddai fyr ohono,
25fel na byddai rhwyg yn y corff, namyn bod yr aelodau ag arnynt yr un pryder am ei gilydd.
26Ac os dioddef un aelod, cyd-ddioddefa’r aelodau oll; os gogoneddir aelod, cydlawenhâ’r aelodau oll.
27A chwithau, corff Crist ydych, ac aelodau bob yr un.
28A rhai a osododd Duw yn yr eglwys, yn gyntaf, apostolion; yn ail, proffwydi; yn drydydd, athrawon; yna, nerthoedd; yna doniau iachâd, cymhorthau, llywodraethau, amryw dafodau.
29Tybed ai apostolion pawb? Ai proffwydi pawb? Ai athrawon pawb?
30A oes i bawb nerthoedd? A fedd pawb ddoniau iachâd? A lefara pawb â thafodau? A fedr pawb eu dehongli?
31Ond byddwch yn fawr eich awydd am y doniau uwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.