Hebreaid 10 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Gan mai cysgod sydd gan y gyfraith o’r pethau da i ddyfod, ac nid gwir ddull y pethau, ni all hi byth berffeithio’r rhai sy’n nesáu o flwyddyn i flwyddyn gyda’r un aberthau ag a offrymant byth a hefyd.

2Canys oni pheidiasid â’u hoffrymu, gan na buasai mwyach ymwybod â phechodau gan addolwyr a oedd wedi eu glanhau unwaith?

3Ond y mae yn y rhain goffa am bechodau bob blwyddyn,

4canys ni all gwaed teirw a geifr symud ymaith bechodau.

5Felly wrth ddyfod i’r byd fe ddywed,

“Aberth ac offrwm ni tynnaist, corff yn hytrach a ddarperaist imi.

6 Offrymau llosg, a rhai dros bechod ni ryngasant dy fodd.

7 Yna y dywedais: Wele fi wedi dyfod; yn rhoi y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf,

I wneuthur, o Dduw, dy ewyllys.”

8Wrth ddywedyd i ddechrau, “aberthau ac offrymau ac offrymau llosg a rhai dros bechod ni tynnaist ac ni ryngwyd dy fodd ynddynt,” y rhai a offrymir yn ôl y gyfraith,

9“yna” — cawn iddo ddywedyd — “wele fi wedi dyfod i wneuthur dy ewyllys di.” Y mae’n diddymu’r cyntaf er mwyn sefydlu’r ail.

10Yn yr ewyllys hon yr ydym wedi ein santeiddio drwy offrwm corff Iesu Grist unwaith am byth.

11Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn ei wasanaeth ac yn offrymu’r un aberthau lawer gwaith, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau, —

12ond hwn wedi iddo offrymu un aberth am byth dros bechodau, a aeth i eistedd ar ddeheulaw Duw,

13yn disgwyl bellach hyd oni osoder ei elynion yn droedfainc i’w draed;

14canys ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a santeiddir.

15Ond y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; canys ar ôl dywedyd,

16 “Hwn yw’r cyfamod a wnaf â hwynt

wedi’r dyddiau hynny, medd yr Arglwydd.

Mi a roddaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau,

ac ar eu meddwl yr ysgrifennaf hwynt,”

17[yna y mae’n dywedyd],

“A’u pechodau hwynt a’u troseddau ni chofiaf byth mwy.”

18Yn awr, lle y ceir maddeuant o’r rhain, nid oes mwy offrwm dros bechod.

19Felly, frodyr, gan fod gennym hyder hyd at fyned i mewn i’r cysegr drwy waed Iesu

20ar hyd ffordd newydd a byw a agorodd ef i ni drwy’r llen, hynny yw, ei gnawd ef,

21a bod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw,

22nesáwn gyda chalon gywir mewn cyflawnder ffydd, a’n calonnau wedi eu taenellu’n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a’n corff wedi ei olchi â dŵr glân.

23Daliwn gyffes ein gobaith yn ddiwyro, canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd,

24a gwyliwn ar ein gilydd i gyffroi cariad a gweithredoedd da,

25heb droi’n cefnau ar ein cydymgynnull ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog, a hynny’n fwy gan eich bod yn gweled y dydd yn nesáu.

26Canys os o’n gwirfodd y pechwn ar ôl derbyn adnabyddiaeth o’r gwirionedd, nid oes bellach ddim aberth dros bechodau,

27ond rhyw ddychrynllyd aros barn, ac angerdd tân a fydd yn ysu’r gwrthwynebwyr.

28Pwy bynnag a fu’n ddibris o gyfraith Moses a leddir heb drugaredd ar air dau neu dri o dystion.

29Pa faint gwaeth cosb, debygwch chwi, a ddyfernir i’r hwn a fathrodd fab Duw, ac a gymerodd yn beth cyffredin waed y cyfamod â’r hwn y santeiddiwyd ef, ac a fwriodd sarhad ar ysbryd y gras?

30Canys yr ydym yn gwybod am yr hwn a ddywedodd, “Myfi piau dialedd, myfi a dalaf y pwyth”; a thrachefn, “Barna’r Arglwydd ei bobl.”

31Ofnadwy o beth yw cwympo i ddwylo Duw byw.

32Gelwch i gof y dyddiau gynt pryd, â chwi wedi eich goleuo, yr ymgynaliasoch dan galedi mawr o ddioddefiadau —

33yn cael gwneuthur arddangosfa ohonoch mewn sarhadau ac ingoedd, neu ynteu wedi dyfod i gymdeithas y rhai oedd â’u helynt felly.

34Canys â’r carcharorion y cyd-ddioddefasoch, a’r ysbeiliad o’ch meddiannau a dderbyniasoch mewn llawenydd, gan wybod bod gennych chwi eich hunain feddiant gwell ac arhosol.

35Na ollyngwch o’ch gafael, felly, eich hyder, sydd ag iddo fawr wobr.

36Canys amynedd sydd yn rhaid i chwi fel, wedi gwneuthur ewyllys Duw, y caffoch yr addewid.

37Canys ychydig bach eto,

ac fe ddaw’r hwn sydd yn dyfod, ac nid oeda.

38 Ond fy nghyfiawn i, drwy ffydd y bydd byw,

ac os cilia’n ôl, ni ryngir bodd fy enaid ynddo.

39Eithr ni, nid pobl y cilio’n ôl i golledigaeth ydym, ond pobl y ffydd i feddiant o’r enaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help