1Tydi, ynteu, fy machgen, ymgryfha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2A’r pethau a glywaist gennyf i yngŵydd tystion lawer, trosglwydda i wŷr o ymddiried, rhai a fyddo gymwys i addysgu eraill hefyd.
3Cymer dy ran o oddef caledi fel milwr da i Iesu Grist.
4Nid oes neb mewn rhyfel yn ei glymu ei hun wrth faterion eraill bywyd, fel y rhyngo fodd i’r sawl a’i derbyniodd yn filwr.
5A hefyd os ymdrecha dyn yn y campau, nis coronir, onid ymdrecha yn ôl y rheolau.
6Yr amaethwr a lafurio sydd i dderbyn yn gyntaf o’r cynnyrch.
7Ystyria a ddywedaf, ac fe rydd yr Arglwydd i ti ddeall ym mhob dim.
8Cadw mewn cof Iesu Grist, y sydd wedi atgyfodi oddi wrth y meirw, o hil Dafydd; dyma fy efengyl i.
9Yng ngwasanaeth hon y goddefaf gam-drin hyd at rwymau fel drwg weithredwr, eithr gair Duw nis rhwymir.
10Dyna paham yr wyf yn ymgynnal tan bob dim er mwyn y rhai dewisol, fel y cyrhaeddont hwythau yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu ynghyda gogoniant tragwyddol.
11Gwir yw y gair;
Canys os buom gydfarw ag ef, cawn gydfyw hefyd,
12Os ymgynhaliwn, ni gawn gyd-deyrnasu,
Os gwadwn, yntau a’n gwad ninnau,
13Os palla’n ffydd, ef a bery’n ffyddlon,
Canys ei wadu ei hun ni all.
14Atgofia’r pethau hyn iddynt, gan eu tynghedu yngŵydd yr Arglwydd i beidio ag ymryson am eiriau, peth nad yw fuddiol i ddim ond dymchwelyd y gwrandawyr.
15Bydd ddyfal i’th gyflwyno dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr di-wrid, yn iawn rannu gair y gwirionedd.
16Ond rhag anghysegredig wag siaradach ymgadw, canys ymlaen yr ânt i fwy o annuwioldeb,
17a’u gair a ysa fel cancr; ohonynt hwy y mae Hymenaeos a Philetos,
18y rhai a gamfwriodd ynglŷn â’r gwirionedd: dywedyd a wnânt ddigwydd o’r atgyfodiad eisoes a dadymchwel ffydd rhai.
19Eto i gyd cadarn sylfaen Duw sydd yn dal, ac arni’r argraff hon, “Fe edwyn yr Arglwydd ei bobl ei hun,” ac “Ymadawed â drygioni bawb a enwo enw’r Arglwydd.”
20Mewn tŷ mawr y mae llestri nid yn unig o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd, rhai yn urddasol a rhai yn anurddasol.
21Os ymbura neb, ynteu, oddi wrth y drygau hyn, ef a fydd lestr urddasol, cysegredig, at law’r meistr yn barod i bob gwaith da.
22Eithr nwydau ieuenctid, ffo rhagddynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd yng nghwmni’r sawl sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur.
23Eithr ffôl ac anniwylliedig ddyfaliadau gochel, gan wybod y magant gynhennau.
24Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn hiroddefus,
25yn mwynaidd hyfforddi’r gwrthwynebwyr. Pwy a ŵyr na rydd Duw rywbryd iddynt edifeirwch i ganfod y gwirionedd
26a sobri allan o fagl y diafol a’u dal gan y gwas i wneuthur ewyllys Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.