Luc 10 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Wedi hyn penododd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill, ac anfonodd hwynt bob yn ddau o’i flaen i bob dinas a man lle’r oedd ef ar fedr dyfod.

2Ac meddai wrthynt, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr; felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf.

3Ewch; dyma fi’n eich anfon chwi fel ŵyn i blith bleiddiaid.

4Na ddygwch bwrs, na chod, nac esgidiau, ac na chyferchwch neb ar y ffordd.

5I ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i’r tŷ hwn.’

6Ac os bydd yno fab tangnefedd, fe orffwys eich tangnefedd arno; onid e, fe ddychwel arnoch chwi.

7Arhoswch yn y tŷ hwnnw, gan fwyta ac yfed a fo ganddynt, canys teilwng i’r gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ.

8Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a chael croeso, bwytewch yr hyn a osodir ger eich bron,

9ac iachewch y cleifion ynddi, a dywedwch wrthynt, ‘Nesaodd teyrnas Dduw atoch.’

10Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a heb gael croeso, ewch allan i’w heolydd hi, a dywedwch,

11‘Hyd yn oed y llwch o’ch dinas chwi a lynodd wrth ein traed, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi; eithr gwybyddwch hyn, nesaodd teyrnas Dduw.’

12Yr wyf yn dywedyd wrthych mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw nag i’r ddinas honno.

13Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm yr eisteddasent mewn sachliain a lludw ac yr edifarhasent.

14Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn nag i chwi.

15A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni.

16Y neb a wrendy arnoch chwi a wrendy arnaf innau, a’r neb a’ch gwrthyd chwi a’m gwrthyd innau; a’r neb a’m gwrthyd i a wrthyd yr hwn a’m danfonodd i.”

17A dychwelodd y deg a thrigain mewn llawenydd, gan ddywedyd, “Arglwydd, darostyngir hyd yn oed y cythreuliaid i ni yn dy enw di.”

18Dywedodd wrthynt, “Yr oeddwn yn gwylied Satan fel mellten yn syrthio o’r nef.

19Dyma fi wedi rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl allu’r gelyn, ac nid oes dim a’ch niweidia o gwbl oll.

20Eithr na lawenhewch am hyn, fod yr ysbrydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenhewch fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”

21Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, a dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti.

22Popeth a draddodwyd imi gan fy Nhad, ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab ond y Tad, a phwy yw’r Tad ond y Mab a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.”

23A throes at y disgyblion o’r neilltu, a dywedodd, “Gwyn eu byd y llygaid sy’n gweled yr hyn a welwch chwi.

24Canys meddaf i chwi, llawer o broffwydi a brenhinoedd a ddymunodd weled yr hyn a welwch chwi ac nis gwelsant, a chlywed yr hyn a glywch ac nis clywsant.”

25A dyma ryw gyfreithiwr yn codi i’w demtio, gan ddywedyd, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”

26Dywedodd yntau wrtho, “Beth sy’n ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa fodd y darlleni?”

27Atebodd yntau, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth ac â’th holl feddwl, a dy gymydog fel ti dy hun.”

28Dywedodd yntau, “Iawn yr atebaist; gwna hyn, a byw fyddi.”

29Yntau, yn dymuno ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, “A phwy sydd gymydog i mi?”

30Gan ddal ar ei air, dywedodd, yr Iesu, “Rhyw ddyn oedd yn mynd i lawr o Gaersalem i Iericho, ac fe syrthiodd ymhlith lladron, y rhai a’i diosgodd a’i guro, a mynd ymaith a’i adael yn hanner marw.

31A digwyddodd bod rhyw offeiriad yn mynd i lawr y ffordd honno, a phan welodd ef fe aeth o’r tu arall heibio.

32Yr un modd Lefiad hefyd a ddaeth i’r fan, a’i weled, a mynd o’r tu arall heibio.

33Ond rhyw Samariad ar ei daith a ddaeth lle’r oedd, a phan welodd ef fe dosturiodd wrtho,

34ac aeth ato a rhwymo’i archollion a thywallt arnynt olew a gwin; a gosododd ef ar ei anifail ei hun, a’i ddwyn i westy, a chymryd gofal ohono.

35A thrannoeth tynnodd allan ddau swllt, a rhoes hwynt i’r gwestywr, a dywedodd, ‘Cymer ofal ohono, a pha beth bynnag a wariech yn rhagor, ar fy ffordd yn ôl mi a’i talaf i ti.’

36Pa un o’r tri hyn, dybi di, a fu gymydog i’r hwn a syrthiodd i blith y lladron?”

37Dywedodd yntau, “Yr un a wnaeth drugaredd ag ef.” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau’r un modd.”

38Ac ar eu taith aeth ef i mewn i ryw bentref. A rhyw wraig a’i henw Martha a’i croesawodd ef i’r tŷ.

39Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, ac eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd, a gwrandawai ar ei ymadrodd.

40Ond yr oedd Martha yn drysu gan gymaint o weini; a safodd a dywedodd, “Arglwydd, ai difater gennyt i’m chwaer fy ngadael wrthyf, fy hun i weini? Dywed wrthi, ynteu, am estyn cymorth i mi.”

41Atebodd yr Arglwydd a dywedodd wrthi, “Martha, Martha, pryderu a thyrfu’r wyt ynghylch llawer o bethau;

42nid rhaid ond wrth ychydig o bethau, neu un; canys Mair a ddewisodd y rhan dda, a honno nis dygir oddi arni.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help