1Ofnwn, felly, a’r addewid wedi ei gadael y cawn ddyfod i mewn i’w orffwysfa, rhag dyfarnu neb ohonoch ar ôl.
2Canys i ninnau hefyd megis iddynt hwy y daeth y newyddion da, ond nid elwasant hwy ar y gair a glywsant am nad oedd wedi ei gydrywiogi, drwy ffydd, â’r rhai a glywodd.
3Canys yr ydym ni, y rhai a gredodd, yn myned i mewn i’r orffwysfa fel y mae’r gair,
“Am hynny y tyngais yn fy llid,
‘Ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’ ”;
ac eto y mae’r gwaith
wedi ei orffen er seiliad y byd.4Y mae gair hefyd yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn,
“A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith”.
5Ac yma hefyd, “ni chânt fyth ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i.”
6Felly, gan fod hyn eto’n aros, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth i mewn, oherwydd anufudd-dod, y rhai a gafodd glywed gynt y newyddion da,
7y mae ef drachefn yn pennu rhyw ddiwrnod, heddiw, drwy ddywedyd yn Nafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dywedwyd o’r blaen,
“Heddiw os clywch ei lais ef,
Na chaledwch eich calonnau.”
8Canys pe rhoesai Joswa orffwys iddynt, ni soniasai am ddiwrnod arall ar ôl hynny;
9felly, y mae Sabath o orffwys yn aros i bobl Dduw;
10canys y neb a aeth i mewn i’w orffwysfa, gorffwysodd hwnnw hefyd oddi wrth ei waith,
megis Duw oddi wrth ei waith yntau.11Ymegnïwn, gan hynny, i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio yn yr un math o anufudd-dod.
12Canys byw yw gair Duw, a llawn ynni, a llymach nag un cleddyf deufin, ac yn treiddio hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr, ac yn farnwr ar amcanion a meddyliau’r galon.
13Ac nid oes dim a grewyd yn anweledig yn ei ŵydd, ond y mae popeth yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef, yr hwn yr ydym ni yn gyfrifol iddo.
14Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi myned drwy’r nefoedd, Iesu fab Duw, daliwn ein gafael yn ein cyffes;
15canys nid archoffeiriad sydd gennym na all gydymdeimlo â’n gwendidau ni, ond un sydd wedi ei brofi ym mhopeth yr un ffunud heb bechod.
16Am hynny, agosáwn mewn hyder at orsedd y gras, fel y derbyniom drugaredd ac y caffom ras yn gymorth yn ei bryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.