1Minnau, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth fabanod yng Nghrist.
2Diodais chwi â llaeth, ni roddais i chwi fwyd, canys hyd yna ni allech ei gymryd. Ac nis gellwch yr awr hon chwaith, canys cnawdol ydych eto;
3canys, a chenfigen a chynnen yn eich plith chwi, onid ydych yn gnawdol ac yn rhodio yn null dyn?
4Canys pan ddywedo rhyw un, “Myfi, eiddo Pawl wyf,” ac arall, “Myfi, eiddo Apolos,” onid dynion ydych?
5Pa beth, ynteu, yw Apolos, neu ba beth Pawl? Gweision, y credasoch chwi drwyddynt, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un ohonynt.
6Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw a roddes y cynnydd;
7gan hynny nid yw na’r plannwr ddim na’r dyfrhawr chwaith, ond Duw, y sydd yn rhoddi’r cynnydd.
8Eithr y plannwr a’r dyfrhawr un ydynt, eithr pob un a dderbyn ei briod wobr yn ôl ei briod lafur.
9Canys cydweithwyr i Dduw ydym; maes llafur Duw ydych, ac adeiladwaith Duw.
10Yn ôl y gras Duw a rodded i mi, fel pensaer doeth, gosodais sylfaen, eithr arall sydd yn adeiladu arni. Edryched pob un pa fodd yr adeilado.
11Canys sylfaen arall ni all neb ei gosod oddieithr honno a osodwyd, sef Iesu Grist.
12Ac ar y sylfaen, od adeilada neb aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl,
13gwneir gwaith pob un yn amlwg. Canys y dydd a’i hamlyga, oblegid trwy dân y datguddir, a gwaith pob un, pa fath ydyw, y tân a’i prawf.
14Canys od erys y gwaith a adeiladodd neb, fe dderbyn hwnnw ei dâl.
15O llosgir gwaith neb, colledir hwnnw, eithr cedwir ef ei hun, ond eto megis trwy dân.
16Oni wyddoch mai teml Dduw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch?
17Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw; canys sanctaidd yw teml Dduw, a hynny ydych chwi.
18Na thwylled neb ef ei hunan; od oes neb yn eich plith yn ei dybied ei hun yn ddoeth yn y bresen hon, aed yn ffôl, fel y dêl yn ddoeth.
19Canys y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb gan Dduw; canys ysgrifennwyd, Yr hwn sy’n dal y doethion yn eu cyfrwysdra.
Job 5:13.20A thrachefn, Gŵyr yr Arglwydd feddyliau’r doethion, mai ofer ydynt.
Salm 94:11.21Felly, nac ymffrostied undyn mewn dynion, canys eiddo chwi bopeth,
22pa un bynnag ai Pawl, ai Apolos, ai Cephas, pa un bynnag ai’r byd ai bywyd ai angau, pa un bynnag ai pethau sydd ai pethau a ddêl, eiddoch chwi’r cwbl;
23a chwithau’n eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.