2 Corinthiaid 4 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Am hynny, gan fod gennym y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn gwangalonni.

2Eithr ymwrthodasom â’r pethau a gelir o gywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra na llygru gair Duw, ond drwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain i bob cydwybod ddynol gerbron Duw.

3Ac os ydyw ein hefengyl ni hefyd dan orchudd, yn y rhai a gollir y mae’n orchuddiedig,

4sef yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y digred ynddynt, fel na lewyrchai iddynt oleuni gogoniant efengyl y Crist sy’n ddelw Duw.

5Canys nid ni ein hunain a bregethwn eithr Iesu Grist yr Arglwydd, a ninnau’n weision i chwi er mwyn Iesu.

6Oblegid y Duw a ddywedodd “O dywyllwch llewyrcha goleuni,” ef hefyd a lewyrchodd yn ein calonnau ni fel y byddai goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Crist.

7Y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd fel y byddo godidowgrwydd y gallu yn eiddo Duw ac nid yn deillio ohonom ni.

8Ym mhob dim yr ydym yn orthrymedig ond nid mewn cyfyngder, mewn penbleth ond nid mewn anobaith,

9yn cael ein herlid ond heb ein llwyr-adael, yn cael ein bwrw i lawr ond heb ein difetha,

10yn wastadol yn dwyn oddi amgylch yn y corff farwolaeth yr Iesu fel yr amlyger hefyd fywyd yr Iesu yn ein corff ni.

11Canys yn wastadol fe’n traddodir ni sy’n fyw, i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12Y mae marwolaeth felly yn gweithio ynom ni, a bywyd ynoch chwi.

13A chan fod gennym yr un ysbryd ffyddiog, megis yr ysgrifennwyd Credais, am hynny lleferais,

Salm 116:10. yr ydym ninnau’n credu ac oblegid hynny yn llefaru hefyd,

14am ein bod yn gwybod mai’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu a’n cyfyd ninnau gydag Iesu ac a’n cyflwyna gyda chwi.

15Canys y mae’r cwbl er eich mwyn chwi, fel y byddo gras, wedi ymhelaethu ohono oherwydd diolchgarwch y lliaws, yn dra chyfoethog er gogoniant i Dduw.

16Oherwydd paham nid ydym yn gwangalonni, eithr hyd yn oed os yw ein dyn allanol yn dadfeilio, er hynny ein dyn mewnol a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17Canys y mae’r cystudd ysgafn dros ennyd yn cynhyrchu’n anfesuradwy ac yn fwyfwy i ni dragwyddol bwys o ogoniant

18gan nad ydym yn edrych ar y pethau gweledig eithr ar y pethau anweledig. Canys y pethau gweledig dros dymor y maent, ond y mae’r pethau anweledig yn dragwyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help