1Na fyddwch athrawon lawer, fy mrodyr, gan wybod mai trymach barn a dderbyniwn:
2canys mynych y llithrwn ninnau bawb. Od oes neb heb lithro mewn gair, gŵr cyflawn fydd hwnnw, yn abl i ffrwyno’r holl gorff hefyd.
3Pan ddodom ffrwynau yn safnau’r meirch, fel yr ufuddhaont i ni, yr ydym yn troi eu holl gorff hefyd.
4Ac wele’r llongau hwythau, er eu maint, ac er eu hyrddio gan wyntoedd geirwon, troir hwy oddi amgylch â llyw bychan bach, lle mynno ysgogiad y llywydd.
5Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, eithr yn ymffrostio pethau mawrion; wele gymaint o goed a ennyn cyn lleied o dân!
6A’r tafod, tân yw; byd o anghyfiawnder yw’r tafod, yn hanfod ymhlith ein haelodau, ac y sy’n halogi’r holl gorff, ac yn tanio cylch anian, a Gehnna yn ei danio yntau.
7Canys dofir a dofwyd pob rhywogaeth o wylltfilod ac ednod ac ymlusgiaid a chreaduriaid môr gan y rhywogaeth ddynol,
8ond am y tafod, ei ddofi ni ddichon neb dyn; drwg di-wastrodedd yw, llawn gwenwyn marwol.
9Ag ef y bendigwn yr Arglwydd a’r Tad, ag ef hefyd y melltithiwn ddynion a wnaethpwyd ar lun Duw
Gen. 1:26..10O’r un genau y daw allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai bod y pethau hyn felly.
11A fwrw’r ffynnon allan o’r un llygad y melys a’r chwerw?
12A ddichon y ffigyswydden ddwyn olifaid, neu’r winwydden ffigys? ni rydd yr hallt chwaith ddwfr peraidd.
13Pwy sydd ddoeth a chyfarwydd yn eich plith? dangosed ei weithredoedd trwy ymarweddiad glân ym mwyneidd-dra doethineb.
14Eithr os cenfigen chwerw ac ymryson sydd gennych yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na thraethwch gelwydd yn erbyn y gwirionedd.
15Nid yw’r ddoethineb hon yn disgyn oddi uchod, eithr daearol, anianol, cythreulig yw.
16Canys lle bo cenfigen ac ymryson, yno y bydd terfysg a phob tro salw.
17Eithr y ddoethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, yna tangnefeddus, teg, hydrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, diragrith.
18A ffrwyth cyfiawnder, mewn tangnefedd yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur tangnefedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.