1Yna edrychais ac wele’r Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a chanddynt ei enw ac enw ei Dad ef yn ysgrifenedig ar eu talcennau hwynt.
2A chlywais sŵn o’r nef fel sŵn dyfroedd lawer ac fel sŵn taran fawr, a’r sŵn a glywais oedd fel sŵn telynorion yn canu eu telynau.
3A chanant gân newydd o flaen yr orsedd ac o flaen y pedwar peth byw a’r henuriaid; ac ni allai neb ddysgu’r gân oddieithr y cant pedwar deg a phedair o filoedd, y prynedigion o’r ddaear.
4Dyma’r rhai na halogwyd gyda benywod, canys gwyryfon ydynt. Dyma’r rhai sy’n dilyn yr Oen i ba le bynnag yr elo. Prynwyd y rhai hyn o blith dynion yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen,
5ac yn eu genau ni chafwyd celwydd; difeius ydynt.
6A gwelais angel arall yn ehedeg yn yr entrych, a chanddo efengyl dragwyddol i efengylu i’r rhai a breswylia ar y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl,
7gan ddywedyd â llef uchel: Ofnwch Dduw a rhoddwch iddo ogoniant, canys daeth awr ei farn ef, ac addolwch wneuthurwr y nef a’r ddaear, y môr a ffynhonnau dyfroedd.
8A dilynodd un arall, ail angel, gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, a wnaeth i’r holl genhedloedd yfed o win llid ei godineb.
9A dilynodd un arall hwynt, trydydd angel, gan ddywedyd â llef uchel: Os addola neb y bwystfil a’i ddelw, a chymryd nod ar ei dalcen neu ar ei law,
10yf yntau o win llid Duw, a gymysgwyd yn ei lawn rym yng nghwpan ei ddigofaint; a phoenydir ef mewn tân a brwmstan yng ngŵydd angylion sanctaidd ac yng ngŵydd yr Oen.
11A chyfyd mwg eu poenedigaeth yn oes oesoedd, ac ni chânt lonydd na dydd na nos, addolwyr y bwystfil a’i ddelw, na neb pwy bynnag a gymero nod ei enw ef.
12Yn hyn y mae amynedd y saint y sy’n cadw gorchmynion Duw a ffydd Iesu.
13Yna clywais lais o’r nef yn dywedyd, Ysgrifenna: O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy’n marw yn yr Arglwydd; Ie, medd yr Ysbryd, gorffwysant oddi wrth eu llafur; canys â eu gweithredoedd gyda hwynt.
14Yna edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un tebyg i fab dyn, a chanddo ar ei ben goron aur ac yn ei law gryman miniog.
15A daeth angel arall allan o’r deml, gan weiddi â llef uchel ar yr hwn a eisteddai ar y cwmwl: Estyn dy gryman a med, canys daeth yr awr i fedi, oblegid llawn aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.
16A bwriodd yr hwn a eisteddai ar y cwmwl ei gryman i’r ddaear, a medwyd y ddaear.
17A daeth angel arall allan o’r deml oedd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman miniog.
18A daeth angel arall allan o’r allor, yr un a feddai awdurdod ar y tân, a llefodd â llef uchel ar yr un yr oedd ganddo’r cryman miniog: Estyn dy gryman miniog a chasgl sypiau gwinwydden y ddaear, canys aeddfedodd ei grawn.
19A bwriodd yr angel ei gryman i’r ddaear, a chasglodd ffrwyth gwinwydden y ddaear a’i fwrw i winwryf mawr digofaint Duw.
20A sathrwyd y gwinwryf, tu allan i’r ddinas, a daeth gwaed allan o’r gwinwryf i fyny at ffrwynau’r meirch, bellter o un cant ar bymtheg o ystadau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.