Datguddiad 10 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A gwelais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, a chwmwl amdano, a’r enfys ar ei ben, a’i wyneb fel yr haul, a’i draed fel colofnau o dân,

2a chanddo yn ei law lyfryn agored. A gosododd ei droed de ar y môr, a’r un aswy ar y tir,

3a bloeddiodd â llais mawr fel llew yn rhuo. A phan floeddiodd, rhoes y saith daran eu llef hwythau.

4A phan lefodd y saith daran yr oeddwn ar fedr ysgrifennu; a chlywais lais o’r nef yn dywedyd: Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.

5A chyfododd yr angel, a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir, ei law dde i’r nef,

6a thyngodd yn enw’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, a greodd y nef a’r pethau ynddi, y tir a’r pethau ynddo, a’r môr a’r pethau ynddo, na byddai oedi mwyach,

7eithr yn nyddiau llef y seithfed angel, pan fyddai ar fedr utganu, yna y deuai i ben ddirgelwch Duw yn ôl y newyddion da a fynegodd ef i’w weision y proffwydi.

8Yna y llef, a glywais o’r nef, ymddiddanai drachefn â mi a dywedyd: Dos, cymer y llyfr sy’n agored yn llaw yr angel a saif ar y môr ac ar y tir.

9Ac euthum at yr angel gan ofyn iddo roddi i mi’r llyfryn. A dywed wrthyf: Cymer a bwyta ef, a chwerwa ef dy fol, ond yn dy enau bydd yn felys fel mêl.

10Yna cymerais y llyfryn o law’r angel a bwyteais ef, ac yr oedd yn fy ngenau fel mêl o felys; a phan fwyteais ef, chwerwyd fy mol.

11A dywedant wrthyf: Y mae’n rhaid iti drachefn broffwydo parthed pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help