1A’r pryd hynny y dododd Herod y brenin ei ddwylo i ddrygu rhai o aelodau’r eglwys.
2Ac fe laddodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf.
3A phan welodd mai da oedd gan yr Iddewon, aeth rhagddo a dal Pedr hefyd. (Dyddiau’r bara croyw oedd hi.)
4Ac wedi ei ddal fe’i dododd yng ngharchar, a’i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i’w warchod, gan arofun wedi’r Pasg ei ddwyn ymlaen yng ngŵydd y bobl.
5Felly yr oedd Pedr dan warchod yn y carchar; ond gweddïo a wnâi’r eglwys yn ddyfal ar Dduw er ei fwyn.
6A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ger bron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws oedd yn gwarchod y carchar.
7A dyna angel yr Arglwydd yn dyfod a sefyll, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan daro ystlys Pedr fe’i deffrôdd, gan ddywedyd, “Cyfod ar frys;” a syrthiodd ei gadwyni oddiar ei ddwylo.
8A dywedodd yr angel wrtho, “Ymwregysa a dod dy sandalau amdanat;” ac fe wnaeth felly. Ac eb ef wrtho, “Bwrw dy fantell amdanat, a chanlyn fi.”
9Ac aeth allan a’i ganlyn; ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wneid gan yr angel, eithr tybiai mai gweledigaeth a welai.
10Ac aethant heibio i’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, a dyfod at y porth haearn a oedd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a agorodd iddynt ohono’i hun; ac aethant allan a mynd rhagddynt ar hyd un heol; yna’n ebrwydd aeth yr angel ymaith oddiwrtho.
11A daeth Pedr ato’i hun, a dywedyd, “Yn awr gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i o law Herod ac o’r cwbl a ddisgwyliai pobl yr Iddewon.”
12Ac wedi iddo ddeall aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle yr oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo.
13Ac wedi iddo guro wrth ddrws y porth, daeth morwyn, a’i henw Rhoda, i’w ateb;
14a phan adnabu lais Pedr nid agorodd y porth gan lawenydd, eithr rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll o flaen y porth.
15Hwythau, dywedasant wrthi, “Yr wyt yn ynfyd.” Ond taeru a wnâi hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel yw.”
16Daliai Pedr ati i guro; ac wedi agor gwelsant ef, a synasant.
17Ac wedi iddo amneidio arnynt â’i law i dewi, fe adroddodd iddynt pa fodd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar; ac fe ddywedodd, “Mynegwch hyn i Iago a’r brodyr.” Ac aeth ymaith a chyrchu i le arall.
18Ac wedi iddi fynd yn ddydd yr oedd cyffro nid bychan ymhlith y milwyr, beth tybed a ddeuthai o Bedr.
19Ac wedi i Herod ei geisio a bod heb ei gael, cwestiynodd y gwylwyr a gorchmynnodd fynd â hwynt i’w lladd; ac aeth i lawr o Iwdea i Cesarea, a thario yno.
20Ac yr oedd iddo chwerw ymryson â phobl Tyrus a Sidon; a deuthant hwythau’n, unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, gwas ystafell y brenin, ceisient heddwch am fod i’w gwlad hwynt ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
21Ac ar ddiwrnod penodedig eisteddodd Herod ar ei orsedd, a gwisg frenhinol amdano, a dechreuodd areithio wrthynt;
22a bloeddiai’r bobl, “Llais duw ydyw, nid llais dyn.”
23Ac yn y fan fe drawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw; ac fe’i hyswyd gan bryfed, a threngodd.
24A gair yr Arglwydd oedd yn cynyddu ac yn amlhau.
25Ac fe ddychwelodd Barnabas a Saul o Gaersalem wedi iddynt gyflawni eu swydd, gan gymryd gyda hwynt Ioan, a gyfenwid Marc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.