Datguddiad 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Datguddiad Iesu Grist, a roddes Duw iddo, i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder; anfonodd drwy ei angel a dangosodd hwynt i’w was Ioan;

2tystiolaethodd yntau air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, gymaint ag a welodd.

3Gwyn ei fyd yr hwn sy’n darllen ar goedd a’r rhai sy’n gwrando geiriau’r broffwydoliaeth ac yn cadw’r pethau sy’n ysgrifenedig ynddi; canys y mae’r amser yn agos.

4Ioan at y saith eglwys yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd,

5ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntaf-anedig o’r meirw a phennaeth brenhinoedd y ddaear. I’r hwn a’n câr ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau drwy ei waed,

6ac a’n gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef — iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd; Amen.

7Wele y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a gwêl pob llygad ef, ie, y rhai a’i trywanodd, ac wylofain a wna holl Lwythau’r ddaear o’i herwydd. Ie’n wir, Amen.

8 Myfi yw’r Alffa a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, yr hollalluog.

9Myfi Ioan, eich brawd a’ch cyd-gyfranogwr yn y blinfyd a’r deyrnas a’r amynedd sydd drwy Iesu, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu.

10Yr oeddwn yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais tu ôl imi lais mawr fel utgorn yn dywedyd,

11Yr hyn a weli, ysgrifenna mewn llyfr, ac anfon i’r saith eglwys, i Effesus ac i Smyrna ac i Pergamus ac i Thyatira ac i Sardis ac i Philadelffia ac i Laodicea.

12Yna trois i edrych ar y llef a siaradai â mi; ac wedi troi gwelais saith ganhwyllbren aur,

13ac ynghanol y canwyllbrenni un tebyg i fab dyn, wedi ei wisgo hyd ei draed a’i wregysu at ei fronnau â gwregys aur.

14Yr oedd ei ben a’i wallt yn wynion fel gwlân, gwyn fel eira, a’i lygaid fel fflam dân,

15a’i draed yn debyg i bres gloyw-eirias wedi ei buro megis mewn ffwrnais, a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer,

16ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren, ac o’i enau gleddau deufin llym yn dyfod allan, a’i wedd fel yr haul yn tywynnu yn ei nerth.

17A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law ddeau arnaf a dywedyd, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r olaf

18a’r un byw, a bûm farw ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd, ac y mae gennyf allweddau marwolaeth ac Annwn.

19Ysgrifenna gan hynny y pethau a welaist a’r pethau sydd a’r pethau a fydd wedi hyn.

20Dirgelwch y saith seren a welaist ar fy neheulaw, a’r saith ganhwyllbren aur — y saith seren yw angylion y saith eglwys, a’r saith ganhwyllbren, saith eglwys ydynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help