1Fy mhlant bach, yr wyf yn ysgrifennu hyn atoch fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym ddadleuydd gyda’r Tad, Iesu Grist, un cyfiawn.
2Ac iawn yw Ef am ein pechodau ni, ac yn wir nid am ein pechodau ni’n unig ond am yr holl fyd.
3A thrwy hyn y gwyddom ein bod yn ei adnabod Ef, os ydym yn cadw Ei orchmynion.
4Y mae’r hwn sydd yn dywedyd “yr wyf yn Ei adnabod,” ac yntau heb fod yn cadw Ei orchmynion, yn gelwyddog, ac nid yw’r gwir ynddo ef.
5Ond pwy bynnag sy’n cadw Ei air, mewn gwirionedd y mae cariad Duw wedi Ei berffeithio ynddo ef.
6Drwy hyn y gwyddom ein bod ynddo Ef: dylai’r hwn sy’n dywedyd ei fod yn aros ynddo Ef rodio ei hunan hefyd fel y rhodiodd Ef.
7Rai annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn a oedd gennych o’r dechrau. Yr hen orchymyn, y gair a glywsoch ydyw.
8Eto, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, — yr hyn sydd wir ynddo Ef ac ynoch chwithau, — gan fod y tywyllwch yn myned heibio a’r goleuni gwirioneddol yn llewyrchu eisoes.
9Y neb sy’n dywedyd ei fod yn y goleuni ac yntau’n casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd yn hyn.
10Y neb sy’n caru ei frawd, yn y goleuni y mae’n aros, a magl nid oes ynddo ef.
11Ond y neb sy’n casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae ac yn y tywyllwch y mae’n rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae’n myned, am fod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid.
12Yr wyf yn ysgrifennu atoch, blant, am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy Ei enw Ef.
13Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, rai ieuainc, am eich bod wedi gorchfygu’r un drwg. Ysgrifennais atoch chwi, blant, am eich bod yn adnabod y Tad.
14Ysgrifennais atoch, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Ysgrifennais atoch, rai ieuainc, am eich bod yn gryfion a bod gair Duw yn aros ynoch a’ch bod wedi gorchfygu’r un drwg.
15Na cherwch y byd na’r hyn sydd yn y byd. Os yw neb yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
16am fod y cwbl sydd yn y byd, chwant y cnawd a chwant y llygaid a rhodres bywyd, heb fod o’r Tad, ond o’r byd y mae.
17Ac y mae’r byd yn myned heibio a’i chwant ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, y mae ef yn aros yn dragywydd.
18Blant bach, dyma’r awr ddiwethaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dyfod, yn awr dyma anghristiau lawer; wrth hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw.
19Ohonom ni yr aethant allan, ond nid oeddynt ohonom ni, oherwydd pe buasent ohonom ni, buasent wedi aros gyda ni, ond er mwyn amlygu nad ohonom ni y mae un ohonynt.
20Ond y mae gennych chwi eneiniad oddiwrth y sanctaidd, ac yr ydych yn gwybod oll.
21Nid ysgrifennais atoch am na wyddoch y gwir, ond am eich bod yn ei wybod, ac am nad oes un celwydd o’r gwir.
22Pwy yw’r celwyddog ond yr hwn sy’n gwadu nad Iesu yw’r Eneiniog? Hwnnw yw’r Anghrist sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab.
23Pob un sy’n gwadu’r Mab, nid yw’r Tad ganddo ychwaith; yr hwn sy’n cydnabod y Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd.
24Chwithau, yr hyn a glywsoch o’r dechrau, arhosed ynoch. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechrau, byddwch chwithau yn aros hefyd yn y Tad a’r Mab.
25A hon yw’r addewid a addawodd Ef i ni, y bywyd tragwyddol.
26Hyn a ysgrifennais atoch am y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn.
27A chwithau, y mae’r eneiniad a gawsoch ganddo Ef yn aros ynoch, ac nid oes angen arnoch i neb eich dysgu chwi, ond fel y mae Ei eneiniad Ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw ac nid yw’n gelwydd, ac fel y dysgodd chwi, arhoswch ynddo.
28Ac yn awr, blant bach, arhoswch ynddo er mwyn bod hyder gennym pan ymddangoso ac na chywilyddiom rhagddo Ef yn Ei ddyfodiad.
29Os gwyddoch Ei fod yn gyfiawn, gwybyddwch fod pob un hefyd sy’n gwneuthur cyfiawnder yn hanfod ohono Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.