1Gwir a ddywedaf yng Nghrist, nid dywedyd celwydd yr wyf, a’m cydwybod yn cyd-dystio â mi yn yr Ysbryd Glân,
2fod i mi ofid mawr a loes dibaid i’m calon.
3Mynnwn fy mod i fy hun yn anathema, wedi fy ngwahanu oddi wrth y Crist, er mwyn fy mrodyr, fy ngheraint yn ôl y cnawd,
4y rhai sy’n Israeliaid: eiddynt hwy y mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a rhoddi’r ddeddf, a’r addoliad, a’r addewidion;
5eiddynt hwy y tadau, ac ohonynt hwy y Crist o ran y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
6Nid yn unig nid di-rym gair Duw (canys nid Israel bawb sydd o Israel,
7ac nid plant chwaith bawb oblegid eu bod yn had Abraham), yn hytrach, yn Isaac y gelwir i ti had.
hefyd fel yr amlygai olud ei ogoniant tuag at lestri trugaredd, a ragbaratôdd i ogoniant,24sef nyni, a alwodd ef hefyd, nid yn unig o blith Iddewon, eithr o blith cenhedloedd yn ogystal?
25Megis y dywed hefyd yn Hosea: Galwaf y rhai nad ydynt bobl i mi fy mhobl, a honno nad anwylwyd yn annwyl;
26ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, “nid fy mhobl ydych chwi,” yno y gelwir hwy yn feibion Duw byw.
30Pa beth, gan hynny, a ddywedwn? Darfod i genhedloedd na ddilynent gyfiawnder gael gafael ar gyfiawnder, a hwnnw’n gyfiawnder trwy ffydd;
31ond Israel, er dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd mo’r ddeddf.
32Paham? Oherwydd iddi ddilyn, nid drwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen tramgwydd,
33fel yr ysgrifennwyd: Wele, gosodaf yn Seion faen tramgwydd a chraig rhwystr, a’r neb a gred ynddo, nis siomir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.