1Gwnawn yn hysbys i chwi, frodyr, y gras a rodded gan Dduw yn eglwysi Macedonia,
2sef bod helaethrwydd eu llawenydd a dyfnder eu tlodi, a hynny mewn aml brawf gorthrymderus a roed arnynt, wedi ymhelaethu hyd onid ydyw’n gyfoeth o haelioni ar eu rhan.
3Canys yn ôl eu gallu, yr wyf yn tystio, a thu hwnt i’w gallu y rhoesant yn wirfoddol,
4gan ddeisyf arnom gyda thaerineb mawr am y ffafr o gyfranogi yn y weinidogaeth i’r saint.
5Ac nid yn ôl ein disgwyliad y gwnaethant, eithr fe’u rhoesant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd ac yna i ni drwy ewyllys Duw.
6Am hynny yr anogasom Titws, megis y cychwynnodd y gorchwyl graslawn hwn yn eich plith, felly hefyd i’w orffen.
7Eithr megis yr ydych yn oludog ym mhob peth, mewn ffydd a gair a gwybodaeth, ym mhob ymroddiad ac yn y cariad a ddaeth i’ch plith drwom ni, felly hefyd byddwch gyfoethog yn y gras hwn.
8Nid ar ffurf gorchymyn yr wyf yn llefaru eithr trwy sêl pobl eraill yr wyf yn gosod dilysrwydd eich cariad chwithau ar brawf.
9Canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, ddarfod iddo, ac yntau’n gyfoethog, fyned yn dlawd er eich mwyn chwi fel y’ch cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
10Felly cyngor a roddaf yn y mater hwn. Canys hyn sy’n fuddiol i chwi gan eich bod eisoes wedi dechrau, er y llynedd, nid yn unig wneuthur eithr hefyd ewyllysio.
11Yn awr, ynteu, gorffennwch y gwneuthur hefyd, fel megis y bu’r parodrwydd i ewyllysio felly hefyd y bo’r cyflawni o’r hyn sydd gennych.
12Canys os yw’r parodrwydd ar gael y mae dyn yn gymeradwy yn ôl mesur yr hyn sydd ganddo, nid yn ôl yr hyn nad yw ganddo.
13Canys nid trefnu yr ydys i beri ysgafnhad i eraill a chaledi i chwi.
14Eithr, yn ôl egwyddor cyfartalwch, ar hyn o bryd y mae’r hyn sydd gennych i’w hepgor yn cwrdd â’u diffyg hwy fel y bo’r hyn a fo’n weddill ganddynt hwythau yn cwrdd â’ch diffyg chwi ac y bo cyfartalwch,
15megis yr ysgrifennwyd: Nid oedd gormod gan y sawl a gasglasai lawer ac nid oedd rhy fach gan y sawl a gasglasai ychydig.
Ecs. 16:18.16I Dduw y bo’r diolch am osod ohono yng nghalon Titws yr un eiddgarwch drosoch chwi,
17canys er iddo dderbyn ein hanogaeth, eto, gan gymaint ei sêl, o’i wirfodd yr aeth i edrych amdanoch.
18Danfonasom gydag ef y brawd y mae ei glod yn yr efengyl drwy’r holl eglwysi;
19ac nid hynny’n unig eithr fe’i dewiswyd gan yr eglwysi i fod yn gydymaith i ni yn y gorchwyl graslawn hwn a weinyddir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun ac o’n hewyllysgarwch ni,
20gan ochel felly rhag i rywun ein beio parthed y cyfraniadau haelionus a weinyddir gennym.
21Canys yr ydym yn rhagddarbod pethau gweddus nid yn unig gerbron yr Arglwydd eithr hefyd gerbron dynion.
Diar. 3:4 (LXX).22Anfonasom gyda hwynt ein brawd y cawsom brawf o’i sêl lawer gwaith ac mewn llawer modd; yn awr, fodd bynnag, y mae’n llawer mwy selog oblegid yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch chwi.
23Parthed Titws ar y naill law, fy nghydymaith ydyw a chyd-lafurwr yn eich plith; parthed ein brodyr, ar y llaw arall, cenhadau’r eglwysi, gogoniant Crist ydynt.
24Rhoddwch iddynt, gan hynny, brawf eglur gerbron yr eglwysi o’ch cariad ac o gywirdeb ein hymffrost o’ch plegid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.