Luc 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Gesar Awgwstus i gofrestru’r holl fyd.

2Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw Syria.

3Ac aeth pawb i’w cofrestru, pob un i’w ddinas ei hun.

4Aeth Ioseff yntau o Galilea o ddinas Nasareth i Iwdea i ddinas Dafydd a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd,

5i’w gofrestru gyda Mair, a ddyweddiasid iddo, ac a oedd feichiog.

6A phan oeddent yno fe gyflawnwyd y dyddiau iddi i esgor,

7a hi esgorodd ar ei mab cyntafanedig, a rhwymynnodd ef, ai roi i orwedd mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.

8A bugeiliaid oedd yn y fro honno yn aros allan ac yn gwarchod eu praidd drwy’r nos.

9Ac angel i’r Arglwydd a safodd ger eu llaw, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch, ac ofnasant ag ofn mawr.

10A dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni; canys wele, cyhoeddaf i chwi newyddion da am lawenydd mawr a fydd i’r holl bobl,

11canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad, sef Crist yr Arglwydd, yn ninas Dafydd.

12A dyma i chwi arwydd; chwi gewch faban wedi ei rwymynnu ac yn gorwedd mewn preseb.”

13Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o’r llu nefol yn moliannu Duw, ac yn dywedyd:

14“Gogoniant yn y goruchafion i Dduw,

ac ar y ddaear tangnefedd ymysg

dynion sydd wrth ei fodd.”

15A phan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, dywedai’r bugeiliaid wrth ei gilydd, “Awn draw i Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a fu ac a hysbysodd yr Arglwydd inni.”

16Ac aethant ar frys, a chael hyd i Fair ac Ioseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb.

17A phan welsant, gwnaethant yn hysbys y peth a ddywedwyd wrthynt am y plentyn hwn.

18A rhyfeddodd pawb a glywodd at y pethau a ddywedwyd gan y bugeiliaid wrthynt.

19A chadwai Mair yr holl bethau hyn yn ddiogel, a’u hystyried yn ei chalon.

20A dychwelodd y bugeiliaid dan ogoneddu a chlodfori Duw am y cwbl a glywsant ac a welsant fel y dywedwyd wrthynt.

21A phan gyflawnwyd wyth niwrnod ei enwaedu ef, galwyd ei enw ef Iesu, yr enw y galwyd ef gan yr angel cyn ei ymddwyn ef yn y groth.

22A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ôl deddf Moses, dygasant ef i fyny i Gaersalem i’w gyflwyno i’r Arglwydd,

23fel y mae’n ysgrifenedig yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw a agoro groth a elwir yn santaidd i’r Arglwydd,

24ac i roi aberth yn ôl y gosodiad yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod neu ddau gyw colomen.

25Ac wele yr oedd dyn yng Nghaersalem a’i enw Simeon; a’r dyn hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl diddanwch yr Israel, a’r Ysbryd Glân oedd arno;

26ac yr oedd wedi ei rybuddio gan yr Ysbryd Glân na welai angau cyn gweled Eneiniog yr Arglwydd.

27Ac fe ddaeth yn yr Ysbryd i’r deml; ac wedi i’w rieni ddwyn i mewn y plentyn Iesu i wneuthur yn ôl defod y ddeddf yn ei gylch,

28cymerth yntau ef yn ei freichiau, a bendithiodd Dduw, a dywedodd,

29“Yn awr y gollyngi dy was, Arglwydd,

yn ôl dy air, mewn tangnefedd;

30canys gwelodd fy llygaid dy iachawdwriaeth,

31a baratoaist ger bron yr holl bobloedd —

32 goleuni yn ddatguddiad i’r cenhedloedd,

a gogoniant i’th bobl Israel.”

33Ac yr oedd ei dad, a’i fam yn rhyfeddu at y pethau a ddywedid amdano.

34A bendithiodd Simeon hwynt, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele hwn a osodwyd yn gwymp a chyfodiad i lawer yn yr Israel, ac yn arwydd a wrthwynebir

35(a’th enaid dithau a drywana cleddyf), fel y datguddier bwriadau llawer o galonnau.”

36Yr oedd hefyd broffwydes, Anna merch Phanwel o lwyth Aser, — hon, wedi mynd ymhell ymlaen mewn dyddiau, ar ôl byw gyda gŵr saith mlynedd wedi ei morwyndod,

37a fu’n weddw hyd yn bedair a phedwarugain Oed, — ac nid ymadawai â’r deml, ond addoli mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.

38A’r awr honno hi ddaeth i’r fan, a rhoddi diolch i Dduw, a llefaru amdano ef wrth bawb a oedd yn disgwyl am waredigaeth Caersalem.

39A phan gyflawnasant y cwbl a oedd yn ôl deddf yr Arglwydd, dychwelasant i Galilea i’w dinas eu hun, Nasareth.

40A thyfai’r plentyn, a chryfhâi’n gyflawn o ddoethineb; a gras Duw oedd arno.

41Ac âi ei rieni bob blwyddyn i Gaersalem ar ŵyl y Pasg.

42A phan oedd ef yn ddeuddeg oed, aethant i fyny yn ôl arfer yr ŵyl,

43ac wedi iddynt dreulio’r dyddiau i ben, wrth iddynt ddychwelyd arhosodd y bachgen Iesu ar ôl yng Nghaersalem; ac ni wybu ei rieni.

44Ond gan dybio ei fod yn y fintai, aethant daith diwrnod ac yna dechrau chwilio amdano ymysg eu ceraint a’u cydnabod,

45a phan nas cawsant, dychwelasant i Gaersalem gan chwilio amdano.

46Ac wedi tridiau cawsant ef yn y deml yn eistedd ymhlith yr athrawon, ac yn gwrando arnynt ac yn eu holi.

47A rhyfeddai pawb a’i clywai at ei ddeall a’i atebion.

48Ac wrth ei weled trawyd hwynt â syndod, a dywedodd ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, paham y gwnaethost â ni fel hyn? Dyma dy dad a minnau mewn ing yn chwilio amdanat.”

49A dywedodd wrthynt “Paham yr oeddech yn chwilio amdanaf? Oni wyddech fod yn rhaid i mi fod yn nhŷ fy Nhad?”

50A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedodd ef wrthynt.

51Ac aeth i lawr gyda hwynt, a daeth i Nasareth, a bu ddarostyngedig iddynt. A’i fam a drysorai’r cwbl yn ei chalon.

52Ac Iesu a gynyddai mewn doethineb a thwf a ffafr gyda Duw a dynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help