1 Corinthiaid 16 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Am y casgliad i’r Saint eto, megis y trefnais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau hefyd.

2Bob cyntaf o’r wythnos, neilltued pob un ohonoch wrth ei law, gan osod mewn trysorfa, ba beth bynnag a ffynnodd ganddo, fel na ohirier y casgliadau hyd oni ddelwyf i.

3A phan gyrhaeddwyf yna, pwy bynnag a gaffoch yn gymeradwy, y rhai hynny, a chyda hwy lythyrau, a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Gaersalem.

4Ond os gwiw fydd i minnau hefyd deithio, gyda mi y teithiant.

5A deuaf atoch chwi wedi tramwy ohonof Facedonia, canys trwy Facedonia y deuaf;

6nid hwyrach y galwaf heibio i chwi, neu hyd yn oed aeafu, fel y’m hebryngoch chwithau i ba le bynnag yr elwyf.

7Canys nid yw yn fy mryd eich gweled yn awr ar fy hynt, oherwydd gobeithiaf aros ennyd gyda chwi, os caniatâ’r Arglwydd.

8Ac yr wyf yn aros yn Ephesos hyd y Sulgwyn.

9Canys agorwyd drws i mi, un ehang ac effeithiol, — a llawer y gwrthwynebwyr.

10Ac o daw Timotheos, gofelwch fod ei ymwneuthur â chwi yn ddi-ofn. Canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei wneuthur, megis minnau.

11Am hynny, na ddiystyrred neb ef; yn hytrach, hebryngwch ef mewn heddwch, fel y dêl ataf i, canys yr wyf yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr.

12Ac am y brawd Apolos, llawer a erfyniais arno ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr; eithr nid oedd o gwbl yn ei fryd ddyfod yr ennyd hon, ond dyfod a wna pan gaffo amser cyfaddas.

13Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.

14Bydded eich popeth mewn cariad.

15Ond erfyniaf arnoch, frodyr. Gwyddoch am deulu Stephanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt eu dodi eu hunain at wasanaeth y saint.

16Byddwch chwithau hefyd ddarostyngedig i’r cyfryw rai, ac i bob un sy’n cydweithio (â ni) ac yn llafurio.

17Yr wyf yn llawenhau ym mhresenoldeb Stephanas a Ffortunatos ac Achaicos, oblegid cyflawnasant hwy eich diffyg chwi.

18Canys seibiant a roisant hwy i’m hysbryd ac i’r eiddoch chwithau. Arddelwch, gan hynny, y cyfryw rai.

19Y mae eglwysi Asia yn eich annerch. Y mae Acwila a Phrisca, gyda’r eglwys sydd yn eu hannedd hwy, yn danfon llawer annerch i chwi yn yr Arglwydd.

20Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Anherchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.

21Yr annerch hwn â’m llaw i, Pawl.

22Od oes neb heb garu’r Arglwydd, bydded Anathema. Maran Atha.

23Gras yr Arglwydd Iesu gyda chwi.

24Fy nghariad innau gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help