Rhufeiniaid 13 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ymostynged pob enaid i awdurdodau sy trosto. Canys nid oes awdurdod oddieithr gan Dduw, a’r rheini y sydd, gan Dduw y gosodwyd hwynt.

2Felly y mae’r neb a’i gesyd ei hun yn erbyn yr awdurdod yn gwrthwynebu gosodiad Duw, a derbynia’r gwrthwynebwyr ddedfryd arnynt eu hunain.

3Canys nid yw swyddogion yn achos ofn i’r weithred dda, ond i’r weithred ddrwg. Ond a ddymuni fod heb ofni’r awdurdod? Gwna’r peth sy dda, a chei glod ganddo;

4canys gweinidog Duw ydyw i ti er daioni. Ond os y peth sy ddrwg a wnei, ofna, oblegid ni wisg ef y cleddyf yn ofer; canys gweinidog Duw ydyw, yn dial er digofaint ar y drwgweithredwyr.

5Felly rhaid yw ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, eithr o achos cydwybod hefyd.

6O achos hyn yr ydych yn talu pob teyrnged hefyd; canys cyfrwng Duw ydyw yn dyfal weithredu i’r un peth hwn.

7Telwch i bawb eich dyledion, teyrnged i’r neb y mae arnoch deyrnged, treth i’r neb y mae arnoch dreth, ofn i’r neb y mae arnoch ofn, parch i’r neb y mae arnoch barch.

8Na foed arnoch ddim dyled i neb, oddieithr i garu eich gilydd; oblegid a garo arall a gyflawnodd y ddeddf.

9Canys y gorchmynion hyn: Na odineba, na ladd, na ladrata, na thrachwanta,

Ecs. 20:13. ac os oes unrhyw orchymyn arall, fe’u crynhoir yn un yn y gair hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun.

Lef. 18:18.

10Ni phair cariad ddrwg i gymydog; gan hynny y mae cariad yn gyfiawnder deddf.

11A hyn hefyd, am eich bod yn gwybod yr amser, ei bod yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yn awr y mae ein hiachawdwriaeth yn nes na phan gredasom.

12Aeth y nos rhagddi ymhell ac y mae’r dydd yn agos. Diosgwn gan hynny weithredoedd y tywyllwch, ac ymwisgwn ag arfau’r goleuni.

13Rhodiwn yn weddaidd megis yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn godineb ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen.

14Yn hytrach ymwisgwch â’r Arglwydd Iesu Grist, ac na ragfeddyliwch am y cnawd, i foddio ei chwantau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help