1Ymlidiwch ar ôl cariad, a byddwch fawr eich awydd am ddoniau ysbrydol, ond yn bennaf mynnwch broffwydo.
2Canys y neb sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae’n llefaru, eithr wrth Dduw. Canys nid oes neb yn ei glywed, eithr yn yr ysbryd llefara ddirgel bethau.
3Eithr y neb sy’n proffwydo, wrth ddynion y mae’n llefaru, er adeiladu, calonogi, a chysuro.
4Y neb sy’n llefaru â thafod, ei adeiladu ei hun y mae, ond y neb sy’n proffwydo, yr eglwys a adeilada.
5Boddlon gennyf i bawb ohonoch lefaru â thafodau, ond yn fwy na dim broffwydo ohonoch. Mwy yn wir yw’r sawl sy’n proffwydo na’r sawl sy’n llefaru â thafodau, oddieithr iddo yntau ddehongli, fel y caffo’r eglwys adeiladaeth.
6Ac yn awr, frodyr, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych, ai mewn datguddiad, ai mewn gwybodaeth, ai mewn proffwydoliaeth, ai mewn athrawiaeth?
7Yr un modd, y mae’r pethau di-fywyd yn rhoddi sain, ai chwibanogl ai telyn; oni roddant gyfwng rhwng y seiniau, pa fodd yr adweinir y peth a genir ar y chwibanogl neu ar y delyn?
8Canys, o rhydd utgorn sain aneglur, pwy a ymbaratoa i ryfel?
9Felly chwithau hefyd, oni roddoch drwy’r “tafod” ymadrodd eglur ei ystyr, pa fodd yr adweinir y peth a leferir? Canys cystal fyddwch â rhai’n llefaru wrth yr awyr.
10Ond y mae cynifer math ar dafodau yn y byd, ac nid oes un ohonynt heb ystyr;
11ond eto, oni wypwyf i rym yr iaith, byddaf, i’r neb a’i llefaro hi, yn farbariad, a’r sawl a’i llefaro yn farbariad i minnau.
12Felly, chwithau hefyd, gan eich bod yn chwannog am ddoniau ysbrydol, boed mai er adeiladaeth y ceisioch fod yn helaeth ynddynt.
13Am hynny, y neb sy’n llefaru â “thafod,” gweddïed am allu i’w ddehongli.
14Canys os gweddïaf â “thafod,” fy ysbryd sy’n gweddïo, eithr y mae fy meddwl yn ddiffrwyth;
15Beth ynteu? Gweddïaf â’m hysbryd; gweddïaf â’m deall hefyd: canmolaf â’m deall hefyd.
16Canys os bendigi ag ysbryd, pa fodd y dywed y sawl a fo yn sedd y cyffredin yr Amen i’th ddiolch di? Canys ni ŵyr pa beth a leferi.
17Canys gwych y teli ddiolch, eithr y llall nis adeiledir.
18Diolch i Dduw, yr wyf i’n llefaru â “thafodau” yn fwy na phawb ohonoch,
19eithr yn yr eglwys mwy dymunol gennyf lefaru pum gair â’m deall, fel y gallwyf hyfforddi eraill hefyd, yn hytrach na myrddiwn o eiriau â “thafod.”
20Frodyr, na byddwch blant o ran deall, eithr mewn drygioni byddwch blantos; ond o ran deall byddwch berffeithion.
21Yn y gyfraith ceir yn ysgrifenedig: â thafodau eraill ac â gwefusau eraill y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed wedi hynny ni wrandawant arnaf,
Canys fe all pawb ohonoch bob yn un broffwydo, fel y dysgo pawb ac yr anoger pawb, —32ac ysbrydoedd proffwydi, i broffwydi y maent ddarostyngedig,
33canys nid Duw anhrefn mohono, eithr Duw heddwch — megis yn holl eglwysi’r saint.
34Tawed y gwragedd yn yr eglwysi, canys ni chaniateir iddynt lefaru, eithr byddent ddarostyngedig, megis y dywed y gyfraith hefyd.
35Od ewyllysiant ddysgu rhywbeth, holent eu gwŷr priod yn tŷ, canys peth anweddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
36Ai o’ch plith chwi yr aeth gair Duw allan, ai atoch chwi’n unig y daeth?
37O thybia neb ei fod yn broffwyd neu “ddyn ysbrydol,” cydnabydded mai gorchymyn yr Arglwydd yw’r pethau a sgrifennaf atoch.
38Oni chydnabyddo neb, na chydnabydder (yntau).
39Am hynny, fy mrodyr, byddwch chwannog i broffwydo, ac na rwystrwch y llefaru â thafodau.
40Eithr boed pob peth yn weddus ac wrth drefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.