Hebreaid 7 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham ar ei ffordd o daro’r brenhinoedd ac a’i bendithiodd,

2a’r hwn y degymodd Abraham iddo ddegwm o bopeth, (dehonglir ei enw ef yn gyntaf yn Frenin Cyfiawnder, ac wedyn yn Frenin Salem, hynny yw, Brenin Heddwch),

3nid oes ganddo dad na mam nac achau, na dechrau dyddiau na diwedd einioes, ond y mae wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fab Duw — y mae hwn yn para yn offeiriad am byth.

4Ystyriwch gymaint gŵr oedd hwn y degymodd y patriarch Abraham iddo ddegwm y blaenffrwyth.

5Yn awr am y rhai o feibion Lefi sy’n derbyn yr offeiriadaeth, y maent hwy dan rwymau i godi’r degwm yn ôl y gyfraith ar y bobl, hynny yw, ar eu brodyr eu hunain, er bod y rheiny wedi dyfod allan o lwynau Abraham.

6Ond hwn, er nad oedd o’u hach hwy, cododd ei ddegwm ar Abraham, a bendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo.

7Ac nid oes dadl nad y lleiaf o ddau a fendithir gan y mwyaf.

8Ac yma marwolion sydd yn derbyn degwm, — ond yno, un y tystir amdano ei fod yn dal i fyw.

9Ac mewn ffordd o siarad, trwy Abraham codwyd degwm hyd yn oed ar Lefi, derbyniwr y degwm,

10canys yr oedd eisoes yn lwynau ei dad pan gyfarfu Melchisedec ag ef.

11Os oedd felly berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd — canys ar sail hon y rhoddwyd cyfraith ar y bobl — pa raid wedyn oedd i offeiriad arall godi yn ôl urdd Melchisedec, ac nid ei enwi yn ôl urdd Aaron?

12Canys pan fo newid ar yr offeiriadaeth, y mae, o angenrheidrwydd, newid cyfraith hefyd.

13Canys yr hwn y dywedir y pethau hyn amdano, i lwyth arall y mae ef yn perthyn, ac o hwnnw nid oes neb wedi gweini wrth yr allor.

14Canys y mae’n hysbys i bawb mai o Jwda yr hanoedd ein Harglwydd ni, llwyth na chyfeiriodd Moses ato ar fater offeiriaid.

15Ac y mae’n fwy hysbys fyth, pan gyfyd offeiriad arall ar ddull Melchisedec,

16a ddaeth nid yn ôl rheol sy’n gofyn am ach y cnawd, ond yn ôl nerth bywyd annistryw.

17Canys tystir amdano, “offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec”.

18Oherwydd y mae yma ddiddymiad ar hen orchymyn am ei fod yn ddi-rym ac yn ddi-les —

19canys ni ddaeth y gyfraith â dim byd i ben — ond dygir i mewn, yn ei le, obaith gwell, yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.

20Ac yn gymaint nad heb lw y bu hyn —

21canys heb lw y daeth y rhai hynny’n offeiriaid, ond hwn dan lw yng ngenau’r hwn sy’n dywedyd wrtho, “Tyngodd yr Arglwydd, ac ni newidia ei feddwl; offeiriad wyt ti yn dragywydd” —

22gwell o hynny oedd y cyfamod y daeth Iesu’n feichiau drosto.

23Am yr offeiriaid, fe wnaed llaweroedd ohonynt, am fod angau yn eu rhwystro i barhau,

24ond hwn, am ei fod yn para yn dragywydd, y mae ganddo ef offeiriadaeth ddi-drosglwydd.

25Am hynny, y mae ef yn abl i gadw hyd yr eithaf y rhai sy’n dyfod at Dduw drwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol ar eu rhan.

26Canys dyma’r fath archoffeiriad oedd hefyd yn addas inni, un santaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, wedi dyfod yn uwch na’r nefoedd,

27nad oes raid arno beunydd, fel yr archoffeiriaid, offrymu’n gyntaf aberthau dros ei bechodau ef ei hunan, ac yna dros bechodau’r bobl. Canys hyn a wnaeth ef unwaith am byth pan offrymodd ef ei hun.

28Canys y mae’r gyfraith yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt yn archoffeiriaid, ond gair y llw sydd ar ôl y gyfraith, Mab, wedi ei berffeithio yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help