1 Ioan 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Pob un sy’n credu mai Iesu ydyw’r Eneiniog, o Dduw y mae wedi ei genhedlu, ac y mae pob un sy’n caru yr hwn a genhedlodd yn caru yr hwn a genhedlwyd ohono.

2Wrth hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan garom Dduw a phan wnelom Ei orchmynion Ef,

3oherwydd hyn yw caru Duw, gadw ohonom Ei orchmynion Ef. A’i orchmynion Ef, nid ydynt drymion,

4oherwydd y mae popeth sy’n hanfod o Dduw yn gorchfygu’r byd. A hon yw’r fuddugoliaeth sy’n gorchfygu’r byd, ein ffydd ni.

5Pwy yw’r hwn sy’n gorchfygu’r byd ond yr hwn sy’n credu mai Iesu yw Mab Duw?

6Dyma’r hwn a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dŵr yn unig ond yn y dŵr ac yn y gwaed: a’r ysbryd sydd yn tystio, oherwydd mai’r ysbryd yw’r gwirionedd.

7Canys y mae rhai sy’n tystio yn dri,

8yr ysbryd5:8 Neu, yr anadl. Gwêl Ioan 19:30., a’r dŵr a’r gwaed, a’r tri sydd yn gytûn.

9Os derbyniwn dystiolaeth dynion, y mae tystiolaeth Duw yn fwy am mai hon yw tystiolaeth Duw, Ei fod wedi tystio am Ei Fab.

10Y mae gan yr hwn sy’n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo’i hun: y mae’r hwn nad yw’n credu Duw, wedi Ei wneuthur Ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu yn y dystiolaeth a dystiodd Duw am Ei Fab.

11A hon yw’r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol, a’r bywyd hwn yn Ei Fab Ef y mae.

12Gan yr hwn y mae’r Mab ganddo y mae bywyd, ac nid oes fywyd gan yr hwn nid yw Mab Duw ganddo.

13Hyn a ysgrifennais atoch er mwyn i chwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol, atoch chwi sydd yn credu yn enw Mab Duw.

14A hwn yw’r hyder sydd gennym tuag ato Ef, Ei fod yn gwrando arnom, os gofynnwn unpeth yn ôl Ei ewyllys.

15Ac os gwyddom Ei fod yn gwrando arnom, pa beth bynnag a ofynnom, gwyddom fod gennym y pethau a ofynasom ganddo.

16Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod heb fod i farwolaeth, fe ofyn ac fe rydd iddo fywyd, i’r rhai nad ydynt yn pechu i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd am iddo ddeisyfu.

17Pob anwiredd, pechod yw, ac y mae pechod heb fod i farwolaeth.

18Gwyddom nad oes neb sy’n hanfod o Dduw yn pechu, ond y mae’r hwn a hanoedd o Dduw yn ei warchod ef, ac nid yw’r un drwg yn cyffwrdd ag ef.

19Gwyddom ein bod o Dduw, a bod y byd yn gyfan yng ngafael yr un drwg.

20Gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod ac wedi rhoddi i ni synnwyr i adnabod yr un gwir. Ac yr ydym yn yr un gwir, yn Ei Fab Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a bywyd tragwyddol.

21Blant bach, gwyliwch arnoch rhag eilunod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help