2 Corinthiaid 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Hyn felly a benderfynais, sef peidio â dod atoch drachefn mewn tristwch.

2Canys os myfi a baraf dristwch i chwi, yna pwy sydd i beri llawenydd i mi ond y sawl a dristawyd drwof i?

3A dyma’r union beth a ysgrifennais, fel na ddelwn a chael tristwch oddi ar law y sawl a ddylai beri llawenydd i mi, canys yr oeddwn yn hyderu ar bawb ohonoch mai fy llawenydd i oedd yr eiddoch chwithau hefyd bawb ohonoch.

4Canys o orthrymder mawr ac o wasgfa calon yr ysgrifennais atoch, drwy lawer o ddagrau, nid er mwyn i chwi brofi tristwch ond yn hytrach fel y gwypech am y cariad sydd gennyf yn dra helaeth tuag atoch chwi.

5Os parodd rhywun dristwch nid i mi y’i parodd ef, ond i raddau — rhag i mi haeru gormod — i bawb ohonoch chwi.

6Digon i’r cyfryw un yw’r cerydd hwn gan y mwyafrif,

7fel y mae galw, i’r gwrthwyneb, am i chwi yn hytrach faddau a chysuro, rhag ysgatfydd i’r cyfryw un gael ei draflyncu gan dristwch eithafol.

8Gan hynny yr wyf yn eich annog i rymuso cariad tuag ato.

9Canys i’r diben hwn hefyd yr ysgrifennais, fel y cawn wybod, wedi eich gosod dan brawf, a ydych yn ufudd ym mhob dim.

10Ond i’r neb y maddeuwch chwi ddim iddo felly y gwnaf innau. Canys yr hyn a faddeuais i, os maddeuais rywbeth, er eich mwyn chwi y gwneuthum hynny yng ngŵydd Crist

11fel na cheffid mantais arnom gan Satan. Oblegid nid ydym ni heb wybod, am ei fwriadau.

12Wedi i mi fyned i Droas ar ran efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i mi yno gan yr Arglwydd,

13ni chefais lonydd i’m hysbryd oblegid na chefais hyd i’m brawd Titws; felly ffarweliais â hwynt ac euthum i Facedonia.

14Ond i Dduw y bo’r diolch am ei fod bob amser yn peri i ni fuddugoliaethu yng Nghrist ac yn amlygu arogl gwybodaeth ohono ef drwom ni ym mhob man.

15Canys perarogl Crist ydym i Dduw yn y rhai a gedwir ac yn y rhai a gollir,

16i’r naill arogl marwol i farwolaeth, i’r lleill arogl bywiol i fywyd. Ac i gwrdd â’r pethau hyn pwy sy’n ddigonol?

17Canys nid ydym, megis y mae llawer, yn gwneuthur llwgr-fasnach o air Duw, eithr megis o ddidwylledd, eithr megis o Dduw ac yng ngŵydd Duw y llefarwn yng Nghrist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help