1“Deuwch a dychwelwn at Iafe,
Canys ef a rwygodd, ac a’n hiachâ,
Tarawodd ac fe’n rhwyma;
2Bywha ni gwedi deuddydd,
Ar y trydydd dydd y’n cyfyd ni,
A byddwn byw ger ei fron.
3Ac adnabyddwn, byddwn selog i adnabod Iafe,
Sicr fel gwawr yw ei fynediad allan,
A daw arnom fel y glaw,
Fel y diweddar law yn dyfrhau’r ddaear.”
4Beth a wnaf â thi, Effraim?
Beth a wnaf â thi, Iwda?
Gan fod eich caredigrwydd fel cwmwl bore,
Ac fel gwlith yn diflannu gyda’r plygain.
5Am hynny holltais hwynt drwy’r proffwydi,
Lleddais hwynt drwy ymadroddion fy ngenau,
Ac â dy farnedigaethau allan yn oleuni.
6Canys ymhyfrydaf mewn caredigrwydd ac nid mewn aberth,
Mewn gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.
7Ond troseddasant hwy gyfamod fel Adda;
Yno y buont anffyddlon imi.
8Tref gweithredwyr anwiredd yw Gilead,
Llwybredig â gwaed.
9Ac fel cynllwynwyr dyn yn dorfoedd
Y mae mintai o offeiriaid,
Llofruddiant ar y ffordd tua Sichem,
Canys cyflawnant ddyhirwch.
10Gwelais yn Nhŷ Israel beth erchyll,
Yno y mae puteindra Effraim,
Ymhalogodd Israel.
11Am Iwda hefyd — gosododd gynhaeaf i ti.
Wrth ddychwelyd ohonof gaethiwed fy mhobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.