Actau'r Apostolion 21 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac wedi i ni ymwahanu oddiwrthynt a chodi hwyl, deuthom ar union hynt i Gôs, a thrannoeth i Rodos, ac oddiyno i Batara;

2a chawsom long yn croesi i Phoenice, ac aethom arni a chodi hwyl.

3Ac wedi cael cipolwg ar Gyprus gadawsom hi ar yr aswy, a ni’n hwylio i Syria, a thiriasom yn Nhyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho’i chargo.

4Ac wedi i ni gael y disgyblion arosasom yno saith niwrnod; a hwythau, dywedyd yr oeddynt wrth Baul trwy yr Ysbryd am beidio â rhoi ei droed yng Nghaersalem.

5Ond wedi i ni orffen y dyddiau, aethom ymaith ar ein taith, a hwynt oll ynghyd â gwragedd a phlant yn ein hebrwng hyd y tu allan i’r ddinas; a phenlinio a wnaethom ar y traeth, a gweddïo,

6a ffarwelio â’n gilydd; ac aethom ar fwrdd y llong, a hwythau, dychwelasant adref.

7A chwblhau’r fordaith a wnaethom ninnau, a chyrraedd o Dyrus i Ptolemais; ac wedi i ni gyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt.

8A thrannoeth aethom ymaith a deuthom i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Phylip yr efengylwr, un o’r saith, ac arosasom gydag ef.

9Ac yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, yn proffwydo.

10Ac a ni’n tario ddyddiau lawer, fe ddaeth un i lawr o Iwdea, proffwyd a’i enw Agabus;

11ac fe ddaeth atom, a chymryd gwregys Paul, ac wedi iddo rwymo ei draed ei hun a’i ddwylo fe ddywedodd, “Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân — ‘Y gŵr biau y gwregys hwn, fe’i rhwyma’r Iddewon ef yng Nghaersalem, ac fe’i traddodant i ddwylo cenedlddynion.’ ”

12A phan glywsom hyn, dechreuasom ni a gwŷr y lle ddeisyf nad elai i fyny i Gaersalem.

13Yna atebodd Paul, “Beth a wnewch, yn wylo ac yn dryllio fy nghalon? Myfi yn wir, parod ydwyf nid yn unig i’m rhwymo ond hyd yn oed i farw yng Nghaersalem er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.”

14A chan na ellid ei berswadio, tawsom gyda dywedyd, “Ewyllys yr Arglwydd a wneler.”

15Ac wedi’r dyddiau hynny ymbaratoi a wnaethom, a mynd i fyny i Gaersalem;

16ac fe aeth rhai o’r disgyblion o Gesarea gyda ni, a’n dwyn i’r tŷ yr oeddem i letya ynddo, tŷ Mnason, gŵr o Gyprus, disgybl o’r dechrau.

17Ac wedi i ni ddyfod i Gaersalem croeso llawen a gawsom gan y brodyr.

18A thrannoeth aeth Paul gyda ni at Iago, a deuthai’r holl henuriaid yno.

19Ac wedi iddo’u cyfarch hwynt, fe adroddai bob yn un ac un y pethau a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.

20Hwythau, wedi clywed, dechreuasant ogoneddu Duw; a dywedasant wrtho, “Ti weli, frawd, pa sawl myrddiwn y sydd o gredinwyr ymhlith yr Iddewon, ac y maent oll yn selog dros y Gyfraith;

21a chawsant wybod amdanat ti dy fod yn dysgu gwrthgiliad oddiwrth Foesen i’r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant a rhodio yn ôl eu defodau.

22Beth amdani, ynteu? Y maent yn siŵr o glywed dy fod wedi dyfod.

23Gwna, felly, yr hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar gŵr sydd o dan adduned ohonynt eu hunain.

24Cymer y rhain, ac ymlanha gyda hwynt, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau, ac fe wybydd pawb nad oes dim yn yr hyn y cawsant ei glywed amdanat, ond dy fod dithau hefyd yn cerdded dan gadw’r Gyfraith.

25Am y cenedlddynion a gredodd, anfonasom ni atynt gan ordeinio iddynt ymogelyd rhag yr hyn a aberthwyd i ddelwau a rhag gwaed a rhag y peth a dagwyd a rhag anniweirdeb.”

26Yna fe gymerth Paul y gwŷr, a thrannoeth ymlanhau gyda hwynt a mynd i mewn i’r Deml, i roi rhybudd am orffen dyddiau’r glanhad,

Num. 6:5. sef y dydd pan offrymwyd yr offrwm dros bob un ohonynt.

27Ond pan oedd y saith niwrnod ar eu dwyn i ben, fe ganfu’r Iddewon o Asia ef yn y Deml, a chynhyrfu’r holl dorf a wnaethant a rhoi eu dwylo arno,

28gan weiddi, “Wŷr Israel, help! Hwn yw’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman yn erbyn y Bobl a’r Ddeddf a’r Lle hwn; mwy na hynny, hyd yn oed Groegiaid a ddug ef i mewn i’r Deml, a halogi’r Lle santaidd hwn.”

29Canys yr oeddynt cyn hynny wedi gweled Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, a meddylient mai i’r Deml yr oedd Paul yn ei ddwyn.

30A chyffrowyd yr holl ddinas, ac ymdyrru a wnaeth y bobl, ac wedi ymaflyd ym Mhaul fe’i llusgent tu allan i’r deml, ac yn union fe gaewyd y drysau.

31Ac a hwynt yn ceisio’i ladd ef, aeth gair i fyny at gapten y fintai fod Caersalem oll yn ymderfysgu,

32a chymerth yntau yn y fan filwyr a chanwriaid, a rhedeg i lawr atynt; hwythau, pan welsant y capten a’r milwyr, peidiasant â churo Paul.

33Yna fe ddynesodd y capten, ac ymaflyd ym Mhaul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn; a holai pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneuthur.

34A bloeddient hyn ac arall yn y dyrfa; a chan na allai gael gwybod yn sicr oherwydd y dwndwr gorchmynnodd ei ddwyn i’r castell.

35A phan ddaeth at y grisiau, bu raid ei gario gan y milwyr oherwydd trais y dyrfa,

36canys dilynai lliaws y bobl dan weiddi, “Ymaith ag ef!”

37A phan oedd ar ei ddwyn i mewn i’r castell, fe ddywed Paul wrth y capten, “A gaf fi air gennyt?” Eb yntau, “A fedri di Roeg?

38Nid tydi felly yw yr Eifftiwr, a gododd derfysg cyn y dyddiau hyn, ac a ddug allan i’r diffeithwch y pedair mil dagerwyr?”

39Dywedodd Paul, “Gŵr o Iddew wyf fi, o Darsus yng Nghilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac atolwg i ti, caniatâ i mi lefaru wrth y bobl.”

40Ac wedi iddo ganiatau, safodd Paul ar y grisiau ac amneidiodd â’i law ar y bobl, ac wedi iddo gael distawrwydd mawr fe’u hanerchodd yn yr iaith Hebraeg, gan ddywedyd:

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help