1 Corinthiaid 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Fe glywir — dim llai — am odineb yn eich plith, a chyfryw odineb ag nas ceir hyd yn oed ymhlith y cenhedloedd, sef caffael o ddyn wraig ei dad.

2A chwithau, ai chwyddedig ydych, ac heb alaru, — rheitiach peth, — fel y certhid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon?

3-4Canys myfi, yn absennol o ran y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, yn enw yr Arglwydd Iesu, wedi ymgynnull ohonoch chwi a’m hysbryd innau ynghŷd, gyda nerth ein Harglwydd Iesu, fel pe bawn bresennol, bernais eisoes am y sawl a gyflawnodd hyn yn y modd hwnnw,

5draddodi’r cyfryw un i Satan, fel y dinistrid y cnawd ond achub yr ysbryd yn nydd yr Arglwydd.

6Nid gweddaidd eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does?

7Certhwch allan yr hen lefain, fel y boch does newydd, megis yr ydych yn ddilefain. Canys aberthwyd ein Pasg

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help