Marc 6 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac aeth ymaith oddiyno, a daw i’w hen gynefin, a’i ganlyn a wna’i ddisgyblion.

2Ac wedi dyfod dydd Sabath dechreuodd ddysgu yn y synagog; a’r lliaws wrth wrando a synnai, gan ddywedyd, “O ba le y daeth i hwn y pethau hyn? A pha beth yw’r ddoethineb a roed i hwn, a’r fath rymusterau a wneir trwy ei ddwylo?

3Onid hwn yw’r saer, mab Mair a brawd Iago ac Ioses ac Iwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” A meglid hwynt ynddo.

4Ac meddai’r Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin, ac ymhlith ei geraint, ac yn ei gartref.”

5Ac ni allai yno wneuthur dim grymuster ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu.

6A rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth.

Ac âi o amgylch ogylch y pentrefi dan ddysgu.

7A geilw ato’r deuddeg, a dechreuodd eu hanfon ddau a dau; a rhoddai awdurdod iddynt ar yr ysbrydion aflan;

8a gorchmynnodd iddynt na chymerent ddim ar gyfer taith ond ffon yn unig, na bara, na chod, na phres yn y gwregys,

9eithr â sandalau am eu traed, ac na wisgent ddwy grysbais.

10Ac meddai wrthynt, “Pa le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch o’r lle hwnnw;

11a pha fan bynnag ni’ch derbynio, ac ni wrandawont arnoch, wrth ymadael oddiyno ysgydwch ymaith y llwch a fo dan eich traed er tystiolaeth iddynt.”

12Ac aethant allan, a phregethasant ar iddynt edifarhau;

13a chythreuliaid lawer a fwrient allan, ac irent ag olew lawer o gleifion, a’u hiacháu hwynt.

14A chlywodd y brenin Herod, canys deuthai ei enw ef yn hysbys; a dywedent, “Ioan Fedyddiwr sy wedi cyfodi o feirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.”

15Eraill a ddywedai, “Elïas ydyw”; ond eraill a ddywedai, “Proffwyd fel un o’r proffwydi.”

16Ond pan glywodd Herod fe ddywedai, “Y gŵr y torrais i ei ben, Ioan, hwnnw a gyfododd.”

17Canys Herod ei hun a anfonodd ac a ddaliodd Ioan, a’i rwymo yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd, am iddo’i phriodi.

18Canys dywedai Ioan wrth Herod, “Ni ddylai fod gennyt wraig dy frawd.”

19A Herodias oedd yn ddig wrtho, ac yn ewyllysio’i ladd; ac nis gallai.

20Canys Herod a ofnai Ioan, yn gwybod ei fod yn ŵr cyfiawn a santaidd, ac fe’i noddai; ac wrth ei glywed petrusai lawer, eto hoffai wrando arno.

21Ac wedi dyfod diwrnod gŵyl, pan wnaeth Herod ar ei ben-blwydd wledd i’w arglwyddi ac i’r cadfridogion ac i oreugwyr Galilea,

22ac wedi i ferch Herodias ei hun ddyfod i mewn a dawnsio, hi foddhaodd Herod a’i gyd-gyfeddachwyr. A’r brenin a ddywedodd wrth yr eneth, “Gofyn gennyf a fynnych, a rhoddaf iti.”

23A thyngodd wrthi, “Beth bynnag a ofynnych rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas.”

24Ac aeth hithau allan, a dywedodd wrth ei mam, “Beth a ofynnaf?” A dywedodd honno, “Pen Ioan Fedyddiwr.”

25Ac aeth hithau i mewn yn y fan ar ffrwst at y brenin, a gofynnodd gan ddywedyd, “Mynnaf iti’n ddioed roi i mi ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”

26A dwys-dristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’r cyfeddachwyr nid ewyllysiodd dorri ei air iddi.

27Ac yna anfonodd y brenin un o’i osgordd, a gorchmynnodd ddwyn ei ben ef. Ac fe aeth, a thorrodd ei ben ef yn y carchar,

28a dug ei ben ef ar ddysgl, a rhoes ef i’r eneth; a’r eneth a’i rhoes i’w mam.

29A chlywodd ei ddisgyblion; a deuthant a chymerasant ei gorff ef, a’i ddodi mewn bedd.

30Ac ymgasgla’r apostolion at yr Iesu, a mynegasant iddo’r holl bethau a wnaethent ac a ddysgasent.

31Ac medd ef wrthynt, “Dowch eich hunain o’r neilltu i le anghyfannedd, a gorffwyswch dipyn.” Canys yr oedd y rhai oedd yn mynd ac yn dyfod yn llawer, ac ni chaent egwyl hyd yn oed i fwyta.

32Ac aethant ymaith yn y llong i le anghyfannedd o’r neilltu.

33A gwelwyd hwynt yn myned, ac adnabu llawer hwynt; ac ar eu traed o’r holl ddinasoedd y rhedasant ynghyd yno, a chael y blaen arnynt.

34Ac wedi iddo ddyfod allan gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail

53Ac wedi croesi hyd at y tir deuthant i Gennesaret, ac angorasant wrth y lan.

54Ac wedi iddynt ddyfod allan o’r llong, yn ebrwydd adnabu’r bobl ef,

55a rhedasant o amgylch trwy’r holl fro honno, a dechreuasant gludo’r cleifion o gwmpas ar eu gwelyau, pa le bynnag y clywent ei fod ef.

56A pha le bynnag y cyrchai, — i’r pentrefydd, neu i’r dinasoedd, neu i’r wlad, — gosodent y rhai methedig yn y marchnadleoedd, ac erfynient arno am iddynt gael cyffwrdd pe na bai ond ag ymyl ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd ag ef a iacheid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help