Datguddiad 21 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A gwelais nef newydd a daear newydd, canys diflannodd y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf, a’r môr nid yw mwyach.

2A’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch a addurnwyd i’w gŵr.

3A chlywais lais mawr o’r orsedd yn dywedyd: Wele babell Duw gyda dynion, a phabella gyda hwynt, a hwy fyddant ei bobl, a bydd Duw ei hun gyda hwynt,

4sych ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt, ac angau ni bydd mwyach, na galar na gwaedd na phoen ni bydd mwyach; canys diflannodd y pethau cyntaf.

5A dywedodd yr un a eisteddai ar yr orsedd: Wele, yn newydd y gwnaf bopeth. Yna dywed: Ysgrifenna, canys y geiriau hyn, ffyddlon a chywir ydynt.

6A dywedodd wrthyf: Daethant i ben. Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.

7Yr hwn sy’n gorchfygu, etifedda’r pethau hyn, a byddaf iddo’n Dduw, a bydd yntau’n fab i mi.

8Ond am y rhai llwfr ac anffyddiog a ffiaidd a llofruddion a phuteinwyr a swyngyfareddwyr ac eilunaddolwyr a phawb celwyddog, bydd eu rhan yn y llyn yn llosgi gan dân a brwmstan, sef yw hynny, yr ail farwolaeth.

9A daeth un o’r saith angel y sydd ganddynt y saith ffiol yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd: Tyred, dangosaf iti’r briodferch, gwraig yr Oen.

10A dug fi ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw,

11a gogoniant Duw ganddi; ei disgleirdeb oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iaspis yn disgleirio fel grisial;

12a’i mur oedd fawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau yn ysgrifenedig, sef enwau deuddeg llwyth meibion Israel;

13o du’r dwyrain tri phorth, ac o du’r gogledd tri phorth, ac o du’r de tri phorth, ac o du’r gorllewin tri phorth.

14Ac i fur y ddinas y mae deuddeg sylfaen, ac arnynt ddeuddeg enw deuddeg apostol yr Oen.

15Ac yr oedd gan yr un a ymddiddanai â mi fesur, corsen aur, i fesuro’r ddinas a’i phyrth a’i mur.

16Ac y mae’r ddinas wedi ei gosod yn bedair-onglog, a’i hyd yn ogymaint â’i lled. A mesurodd y ddinas â’r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau; ei hyd a’i lled a’i huchder sydd gyfartal.

17A mesurodd ei mur hi yn gant pedwar deg a phedwar o gufyddau, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo angel.

18Ac yng ngwneuthuriad ei mur yr oedd iaspis, a’r ddinas sydd o aur pur cyffelyb i wydr gloyw.

19Y mae sylfeini mur y ddinas yn addurnedig â phob rhyw faen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf iaspis, yr ail saffir, y trydydd chalcedon, y pedwerydd smaragdin,

20y pumed sardonycs, y chweched sardion, y seithfed chrusolith, yr wythfed beryl, y nawfed topas, y degfed chrusopas, yr unfed ar ddeg huacinth, y deuddegfed amethyst.

21A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; pob un o’r pyrth oedd o un perl. A heol y ddinas oedd o aur pur fel gwydr tryloyw.

22A theml ni welais ynddi; canys yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ei theml hi, a’r Oen.

23Ac nid rhaid i’r ddinas wrth yr haul na’r lleuad i dywynnu arni; canys goleuodd gogoniant Duw hi, a’i llusern yw’r Oen.

24A rhodia’r cenhedloedd wrth ei golau hi, a dwg brenhinoedd y ddaear eu gogoniant iddi;

25a’i phyrth hi nis caeir y dydd, canys ni bydd nos yno;

26a dygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi.

27Ac nid â i mewn iddi ddim cyffredin na neb a wna ffieidd-dra na chelwydd, neb ond y sawl a ysgrifennwyd yn llyfr bywyd yr Oen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help