Hosea 4 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Clywch, Feibion Israel, air Iafe,

Canys y mae ymrafael rhwng Iafe a phreswylwyr y wlad,

Am nad oes na ffyddlondeb na charedigrwydd

Na gwybodaeth am Dduw yn y wlad.

2Gan dyngu a thwyllo

A llofruddio a lladrata a godinebu

Torrant allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

3Am hynny galara’r wlad,

A nycha pob preswylydd ynddi,

Gyda bwystfil y maes ac ehediad yr awyr,

A derfydd hefyd bysgod y môr.

4Eto nac ymrafaeled neb, ac na cherydded neb,

A’th bobl fel rhai’n ymrafaelu ag offeiriad.

5Ti dramgwyddi y dydd,

A thramgwydda’r proffwyd gyda thi y nos,

A pharaf ddarfod am dy fam.

6Darfu am fy mhobl o ddiffyg gwybodaeth;

Am iti ddirmygu gwybodaeth, dirmygaf innau di

Fel na byddych offeiriad imi;

Ac am iti anghofio cyfarwyddyd dy Dduw,

Anghofiaf innau hefyd dy feibion.

7Yn ol fel yr amlhasant,

Felly y pechasant i’m herbyn,

Trof eu gogoniant yn warth.

8Ymborthant ar bechod fy mhobl,

A rhoddant eu bryd ar eu hanwiredd.

9Ac felly, fel y bo’r bobl y bydd yr offeiriad,

Gofwyaf innau ef am ei ffyrdd,

Ac ad-dalaf iddo am ei arferion.

10A bwytânt, ond nis diwellir,

Puteiniasant, ond ni chynyddant,

Canys peidiasant ag ystyried Iafe.

11Puteindra a gwin a melyswin a ddwg ymaith ddeall.

12Gofyn fy mhobl gyngor gan eu pren,

A mynega eu gwialen iddynt,

Canys parodd ysbryd puteindra iddynt gyfeiliorni,

A phuteiniasant oddiwrth eu Duw.

13Aberthant ar bennau’r mynyddoedd,

Ac arogldarthant ar y bryniau,

Dan dderwen a phoplysen

A phren tyrpant, am mai da eu cysgod;

Am hynny puteinia eich merched,

A godineba eich gwragedd ifainc.

14Ni ofwyaf eich merched am iddynt buteinio,

Na’ch gwragedd ifainc am iddynt odinebu,

Canys ymneilltua’r gwŷr gyda’r puteiniaid,

Ac aberthant gyda’r cysegr-buteiniaid,

A gwthir ymaith bobl ni ddeallant.

15Os wyt ti, Israel, yn puteinio,

Na chamwedded Iwda;

Ac na ddeuwch i Gilgal,

Ac nac ewch i fyny i Fethafen,

Ac na thyngwch “Myn Iafe.”

16Canys ystyfnigodd Israel fel buwch ystyfnig,

Yn awr bugeilia Iafe hwynt fel oen mewn maes agored.

17Cysylltiedig ag eilunod yw Effraim,

Gad iddo.

18Darfu eu gwirod, puteiniasant yn ddiatal,

Carodd ei hamddiffynwyr warth,

19Plygodd gwynt hi yn ei adenydd,

A chywilyddiasant oherwydd eu haberthau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help