1Wedi hynny fe ymadawodd o Athen, a dyfod i Gorinth.
2A daeth o hyd i ryw Iddew, a’i enw Acwila, o Bontus o ran cenedl, gŵr oedd newydd ddyfod o’r Eidal gyda’i wraig, Priscila, oherwydd gorchymyn Clawdius i’r holl Iddewon ymadael o Rufain; ac aeth atynt,
3ac am ei fod o’r un grefft arhosai gyda hwynt, a gweithient. (Gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu crefft.)
4A siaradai yn y synagog bob Saboth, a cheisiai berswadio Iddewon a Groegiaid.
5A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Facedonia yr oedd Paul yn ymglymedig wrth y gair, yn dwys dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Crist.
6Ac a hwy’n gwrthsefyll a chablu, fe ysgydwodd ei ddillad a dywedyd wrthynt, “Ar eich pen chwi y byddo’ch gwaed chwi; glân ydwyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.”
7A symudodd oddiyno ac aeth i dŷ un, a’i enw Titus Iwstus, a addolai Dduw; yr oedd ei dŷ yn un â’r synagog.
8Ond credodd Crispus, yr archsynagogydd, ynghyd â’i holl deulu, yn yr Arglwydd, a llawer o’r Corinthiaid wrth glywed a gredai ac a fedyddid.
9A dywedodd yr Arglwydd liw nos trwy weledigaeth wrth Baul, “Paid ag ofni, eithr dal i lefaru ac na thaw;
10canys yr wyf fi gyda thi,
galluog yn yr ysgrythurau.25Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd llefarai a dysgai yn fanwl y pethau am yr Iesu, gan wybod yn unig am fedydd Ioan.
26Dechreuodd hwn hefyd lefaru’n hy yn y synagog; a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt ac esbonio iddo Ffordd Dduw yn fanylach.
27A chan y dymunai fynd drosodd i Achaia, anogodd y brodyr ef, a sgrifennu at y disgyblion i’w roesawu. Ac wedi iddo gyrraedd cynorthwyodd lawer trwy ras ar y rhai a gredasai.
28Canys â’i holl egni fe lwyr ddymchwelai’r Iddewon, gan brofi ar gyhoedd trwy’r ysgrythurau mai Iesu oedd y Crist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.