Actau'r Apostolion 14 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac yn Iconium yr un modd aethant i synagog yr Iddewon, a llefaru yn y fath fodd ag y credodd lliaws mawr o Iddewon a Groegiaid.

2Ond yr Iddewon na chredasant, cyffroi a llygru meddyliau’r Cenhedloedd a wnaethant yn erbyn y brodyr.

3Felly treuliasant gryn amser, gan lefau’n hy am yr Arglwydd, yr hwn a dystiai i’r gair am ei ras trwy beri gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy.

4A rhannwyd lliaws y ddinas, a rhai oedd gyda’r Iddewon a rhai gyda’r apostolion.

5A phan fu mudiad ymhlith y Cenhedloedd a’r Iddewon ynghyd â’u harweinwyr i’w treisio a’u llabyddio,

6wedi dyfod i wybod diangasant i ddinasoedd Lycaonia, Lystra a Derbe a’r cylch,

7ac yno yr oeddynt yn cyhoeddi’r newydd da.

8Ac yr oedd yn eistedd yn Lystra ryw ŵr diffrwyth ei draed, cloff o’r bru, na cherddasai erioed.

9Yr oedd hwn yn gwrando ar Baul yn llefaru; yntau, wedi syllu arno a gweled bod ganddo ffydd i gael iechyd,

10dywedodd â llais uchel, “Saf ar dy draed yn syth.” Ac fe neidiodd i fyny, a dechreuodd gerdded.

11A phan welodd y torfeydd yr hyn a wnaethai Paul, codasant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, “Y duwiau ar lun dynion a ddaeth i, lawr atom.”

12A galwent Farnabas yn Iau, a Phaul yn Ferchyr, am mai ef oedd y siaradwr blaenaf.

13A dug offeiriad yr Iau a oedd o flaen y ddinas deirw a thorchau at y pyrth, ac arofunai aberthu gyda’r torfeydd.

14Ond pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Phaul, rhwygasant eu dillad a neidio allan i blith y dyrfa, gan weiddi

15a dywedyd, “Wŷr, paham y gwnewch hyn? Dynion ydym ni hefyd, un anian â chwithau; cyhoeddi yr ydym newydd da i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a chwbl sydd ynddynt.

Salm 146:5–6.

16Hwn yn yr oesau a fu, gadodd i’r holl genhedloedd rodio eu ffyrdd eu hunain.

17Ac eto mewn gwneuthur daioni nis gadawodd ei hun heb dyst, gan roddi glaw i chwi o’r nef a thymhorau ffrwythlon, a llenwi’ch calonnau â lluniaeth a llawenydd.”

18Er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt.

19Ond daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium, ac wedi ennill y torfeydd lluchiasant gerrig a llusgo Paul allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.

20Ond wedi i’r disgyblion ei amgylchynu, cyfododd ac aeth i mewn i’r ddinas. A thrannoeth aeth ymaith gyda Barnabas i Dderbe.

21Ac wedi cyhoeddi’r newydd da i’r ddinas honno, a gwneuthur llawer yn ddisgyblion, dychwelasant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia,

22gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u hannog i lynu wrth y ffydd, a dywedyd mai “trwy orthrymderau lawer y mae i ni fynd i mewn i deyrnas Dduw.”

23Ac etholasant henuriaid iddynt ymhob eglwys, ac wedi gweddi ynghyd ag ympryd eu cyflwyno i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.

24Ac wedi teithio trwy Bisidia deuthant i Bamffylia,

25ac wedi llefaru’r gair ym Mherga aethant i lawr i Attalia,

26ac oddiyno hwyliasant i Antiochia, lle yr oeddynt wedi eu hymddiried i ras Duw at y gwaith a gyflawnasant.

27Ac wedi iddynt gyrraedd cynullasant yr eglwys, a mynegi gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i’r Cenhedloedd ddrws ffydd.

28A threulio amser nid ychydig gyda’r disgyblion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help