1A dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd dyn winllan; a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd gain dan y gwinwryf, ac adeiladodd dŵr;
hwn a ddaeth yn ben y gongl:
11 Oddiwrth yr Arglwydd y daeth hyn,
ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni.”
12A cheisient gael gafael arno; ond ofnasant y dyrfa; canys deallasant mai gyda golwg arnynt hwy y dywedasai’r ddameg. A gadasant iddo, ac aethant ymaith.
13Ac anfonant ato rai o’r Phariseaid ac o’r Herodianiaid, i’w ddal ar air.
14Ac wedi dyfod, dywedant wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn didwylledd y dysgi ffordd Duw: a ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio? A rown hi, ai nis rhown?”
15Gwelodd yntau eu rhagrith, a dywedodd wrthynt, “Pam y temtiwch fi? Dygwch imi swllt; gedwch imi weled.”
16Dygasant hwythau un. Ac eb ef wrthynt, “Pwy bïau’r ddelw hon a’r argraff?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.”
17A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, “Pethau Cesar rhowch i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” A rhyfeddent ato.
18A daw Sadwceaid ato, rhai a ddywed nad oes atgyfodiad; a gofynnent iddo gan ddywedyd,
19“Athro, fe sgrifennodd Moses i ni, o bydd marw brawd neb, a gadael gwraig, a heb adael plentyn, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd.
Eistedd ar fy neheulaw,
hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed.
37Dafydd ei hun a’i geilw ef yn Arglwydd, ac o ba le y mae’n fab iddo?”
A’r lliaws mawr oedd hoff ganddynt wrando arno.
38Ac yn ei ddysgeidiaeth fe ddywedai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd,
39a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddau;
40y rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo; fe dderbyn y rhai hyn drymach dedfryd.”
41Ac wedi eistedd gyferbyn â’r drysorfa fe sylwai pa fodd y bwriai’r dorf bres i’r drysorfa; a llawer o gyfoethogion a fwriai lawer;
42a daeth rhyw weddw dlawd, a bwriodd ddwy hatling, hynny yw ffyrling.
43A galwodd ei ddisgyblion ato, a dywedodd wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, y weddw dlawd hon, mwy a fwriodd na phawb o’r rhai sy’n bwrw i’r drysorfa;
44canys hwy oll, o’u gweddill y bwriasant; ond hon, o’i hangen y bwriodd yr hyn oll a feddai, ei holl fywoliaeth.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.