1Gwyn fyd na chyd-ddygech ag ychydig ffolineb ar fy rhan. Eithr yr ydych hefyd yn cyd-ddwyn â mi.
2Canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd oddi wrth Dduw gan fy mod wedi eich dyweddïo i un gŵr fel y gallwn eich cyflwyno yn forwyn bur i Grist.
3Ond y mae ofn arnaf rhag o bosibl, megis y twyllodd y sarff
Gen. 3:13. Efa trwy ei chyfrwystra, y llygrir eich meddyliau a bod iddynt wyro oddi wrth yr unplygrwydd a’r purdeb sy’n gweddu tuag at Grist.4Canys os daw rhywun ar ei dro a phregethu ohono Iesu arall na phregethasom ni, neu os derbyniwch Ysbryd arall na dderbyniasoch neu efengyl arall na chofleidiwyd gennych, yr ydych yn goddef yn ddigon rhwydd.
5Yr wyf yn ystyried na fûm mewn unrhyw fodd yn ddistadlach na’r “uwch-apostolion.”
6A hyd yn oed os anhyddysg ydwyf o ran ymadrodd eto nid felly yr wyf o ran gwybodaeth, fel y gwnaed yn eglur i chwi, ym mhob modd a cherbron pawb.
7A gyflawnais i, tybed, drosedd wrth fy narostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, sef oblegid fy mod wedi pregethu efengyl Duw yn rhad i chwi?
8Ysbeiliais eglwysi eraill drwy gymryd tâl er mwyn eich gwasanaethu chwi,
9a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisiau ni bûm yn faich ar neb. Canys cyflenwodd y brodyr a ddaeth o Facedonia fy angen. Gan hynny fe ymgedwais ym mhob dim rhag bod yn feichus i chwi a gwnaf hynny eto.
10Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof ni chaeir yr ymffrost hwn rhagof ym mharthau Achaia.
11Paham? Ai oblegid nad ydwyf yn eich caru? Duw a ŵyr.
12Ond yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf eto er mwyn torri ymaith gyfle’r rhai sy’n chwennych cyfle yn y gobaith y ceir eu bod, yn y peth yr ymffrostiant o’i blegid, ar yr un tir â ninnau.
13Canys ffug-apostolion yw’r cyfryw rai, gweithwyr twyllodrus, yn ymrithio fel apostolion i Grist.
14Ac nid rhyfeddod yw hynny, canys y mae Satan ei hun yn ymrithio fel angel goleuni.
15Nid ydyw’n beth mawr, felly, os yw ei weision hefyd yn ymrithio fel gweision cyfiawnder. Bydd eu diwedd hwynt yn cyfateb i’w gweithredoedd.
16Dywedaf drachefn, na thybied neb fy mod yn ynfyd; ac onid e derbyniwch fi hyd yn oed fel un ynfyd, fel y gallwyf innau ymffrostio rhyw ychydig.
17Yr hyn a ddywedaf nid yn ôl yr Arglwydd y’i dywedaf eithr megis mewn ynfydrwydd, gan hyderu bod hyn o sail i’r ymffrost.
18Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd ymffrostiaf innau.
19Canys er eich bod yn ddoethion yr ydych yn dygymod yn eithaf bodlon ag ynfydion.
20Oblegid os darostwng rhywun chwi i gaethiwed, os llarpia rhywun chwi, os cipia rhywun chwi, os ymfawrha rhywun, neu os tery rhywun chwi ar eich wyneb, yr ydych yn goddef hynny.
21Er anghlod yr wyf yn dywedyd mai gwan fuom ni. Ac eto ym mha beth bynnag y mae neb yn ymhonni — yn ffôl yr wyf yn siarad — yr wyf innau’n ymhonni.
22Ai Hebreaid ydynt? Felly finnau. Ai Israeliaid ydynt? Felly finnau. Ai had Abraham ydynt? Felly finnau.
23Ai gweision i Grist ydynt? Llefaraf yn ynfyd, myfi’n fwy felly; mewn caledwaith yn helaethach, mewn carcharau yn amlach, dan wialenodiau y tu hwnt i fesur, mewn perygl einioes yn aml.
24Gan yr Iddewon y cefais bumwaith ddeugain gwialennod namyn un,
25fe’m curwyd deirgwaith â gwiail, unwaith fe’m llabyddiwyd, bûm deirgwaith mewn llongddrylliad, treuliais noswaith a diwrnod yn y dyfnfor.
26Bûm mewn teithiau yn aml, mewn peryglon wrth groesi afonydd, mewn peryglon oddi wrth ladron, mewn peryglon oddi wrth fy nghyd-genedl, mewn peryglon oddi wrth genhedloedd eraill, mewn peryglon yn y ddinas, mewn peryglon yn yr anialwch, mewn peryglon ar fôr, mewn peryglon ymhlith gau-frodyr,
27mewn llafur a lludded, heb gwsg yn aml, mewn newyn a syched, ar fy nghythlwng yn aml, mewn oerfel a noethni.
28Heb sôn am bethau eraill y mae gofal beunyddiol arnaf, pryder oblegid yr holl eglwysi.
29Pwy sy’n wan nad wyf innau’n wan? Pwy sy’n tramgwyddo nad wyf innau ar dân?
30Os oes ymffrostio i fod, am y pethau a berthyn i’m gwendid yr ymffrostiaf.
31Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sy’n fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32Yn Namascws gosododd rhaglaw’r brenin Aretas wyliadwriaeth ar ddinas y Damasceniaid er mwyn fy nal,
33a thrwy ffenestr y’m gollyngwyd i waered mewn basged ar hyd y mur ac y dihengais o’i ddwylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.