1Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan ei frawd ef, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu.
2A gweddnewidiwyd ef yn eu gwydd hwynt; a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aeth yn wyn fel y goleuni.
3Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elïas yn ymddiddan ag ef.
4A llefarodd Pedr a dywedodd wrth yr Iesu, “Arglwydd, da yw ein bod ni yma; os mynni, mi wnaf yma dair pabell, i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.”
5Ac yntau eto’n llefaru, dyna gwmwl golau yn eu cysgodi hwynt, a dyma lef o’r cwmwl yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab annwyl a ryngodd fy modd; gwrandewch arno ef.”
6A phan glywodd y disgyblion syrthiasant ar eu hwynebau, ac ofnasant yn ddirfawr.
7A daeth yr Iesu atynt, a chan gyffwrdd â hwynt dywedodd, “Codwch ac nac ofnwch.”
8Ac wedi dyrchafu eu llygaid ni welsant neb ond Iesu ei hun yn unig.
9Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, “Na ddywedwch i neb y weledigaeth hyd oni chyfodo Mab y dyn o feirw.”
10A gofynnodd y disgyblion iddo, “Paham, ynteu, y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?”
11Atebodd yntau, “Elias yn wir sy’n dyfod ac a adfer bopeth;
12ond meddaf i chwi, fe ddaeth Elïas eisoes, ac nis adnabuant ef, eithr gwnaethant ag ef yr hyn a fynasant. Felly hefyd y mae Mab y dyn ar ddioddef ganddynt.”
13Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai wrthynt.
14Ac wedi eu dyfod at y dyrfa daeth ato ddyn gan benlinio iddo,
15a dywedyd, “Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys y mae’n lloerig ac yn ddrwg ei gyflwr; mynych y syrth i’r tân, a mynych i’r dŵr.
16A dygais ef at dy ddisgyblion, ac ni allasant ei iacháu.”
17Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddiffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef yma i mi.”
18A cheryddodd yr Iesu ef, ac aeth y cythraul allan ohono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno.
19Yna daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, a dywedasant, “Paham na allasom ni ei fwrw allan?”
20Medd yntau wrthynt, “Oherwydd prinder eich ffydd; canys yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd fel hedyn mwstard, chwi ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw,’ ac fe symuda; ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.”
22Ac a hwy’n cyniwair yng Ngalilea dywedodd yr Iesu wrthynt, “Y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion,
23a lladdant ef, ac ar y trydydd dydd fe gyfyd.” A thristáu a wnaethant yn ddirfawr.
24Ac wedi eu dyfod i Gapernaum, daeth casglyddion y ddeuswllt at Bedr, a dywedasant, “Oni fydd eich athro’n talu’r ddeuswllt?”
25Medd ef, “Bydd.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen gan ddywedyd, “Beth a debygi di, Simon? Gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear drethi neu deyrnged? Ai gan eu meibion, ai gan estroniaid?”
26A phan ddywedodd “Gan estroniaid,” meddai’r Iesu wrtho, “Felly y mae’r meibion yn rhydd.
27Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny, ac wedi agor ei enau ti gei ddarn pedwar swllt; cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof i a thithau.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.