Luc 12 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Yn y cyfamser, a’r bobl wedi ymgasglu yn eu miloedd nes sathru ar ei gilydd, dechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, sef rhagrith.

2Nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir.

3Am hynny popeth a ddywedasoch yn y tywyllwch, clywir ef yn y goleuni, ac a lefarasoch i’r glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai.

4Meddaf i chwi fy nghyfeillion, nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff ac wedyn ni allant wneuthur dim rhagor.

5Mi ddangosaf i chwi pwy yr ydych i’w ofni; ofnwch yr hwn wedi iddo ladd sydd ganddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch.

6Oni werthir pump aderyn to am ddwy ffyrling? Ac nid oes un ohonynt yn angof gan Dduw.

7Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo bob un; peidiwch ag ofni; amgenach ydych na llawer o adar to.

8Meddaf i chwi, pob un a’m harddelo i yng ngŵydd dynion, Mab y dyn hefyd a’i harddel yntau yng ngŵydd angylion Duw;

9ond y neb a’m gwado i gerbron dynion, gwedir yntau gerbron angylion Duw.

10A phawb a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond i’r hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.

11Pan ddygont chwi gerbron y synagogau a’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd yr amddiffynnwch eich hunain, neu beth a ddywedwch;

12canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth a ddylech ei ddywedyd.”

13Dywedodd un o’r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu’r etifeddiaeth gyda mi.”

14Dywedodd yntau wrtho, “Ddyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu’n ddosbarthwr arnoch chwi?”

15A dywedodd wrthynt, “Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant, canys nid yn yr helaethrwydd sydd i neb y mae ei fywyd, nid o’r pethau a, fedd.”

16A thraethodd ddameg wrthynt, gan ddywedyd, “Tir rhyw ddyn cyfoethog a gnydiodd yn dda,

17Ac ymresymai ynddo’i hun, gan ddywedyd, ‘Beth a wnaf, gan nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau?’

18Ac meddai, ‘Hyn a wnaf: mi dynnaf fy ysguboriau i lawr, a rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf yno fy holl ŷd a’m da,

19a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae gennyt lawer o dda wedi ei ystorio dros flynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.’

20Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Ynfytyn! heno gofynnant dy enaid gennyt; a’r hyn a baratoaist, ai i bwy y bydd?’

21Felly’r neb a drysoro iddo’i hun, ac nid yw’n gyfoethog i Dduw.”

22Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch, nac am eich corff, beth a wisgwch.

23Canys y mae’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r wisg.

24Sylwch ar y brain; nid ydynt yn hau nac yn medi, ac nid oes iddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu porthi. Gymaint amgenach ydych chwi na’r adar!

25A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu at hyd ei einioes hanner llath?

26Felly, oni ellwch hyd yn oed y lleiaf oll, paham y pryderwch am y rhelyw?

27Sylwch ar y liliau pa fodd nad ydynt yn nyddu nac yn gwau; ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain.

28Ac os dillada Duw felly’r gwellt sydd heddiw yn y maes, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, pa faint mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd?

29Ac na cheisiwch chwi beth a fwytewch neu beth a yfwch, ac na chynhyrfwch;

30canys yr holl bethau hyn y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond gŵyr eich Tad fod arnoch chwithau eisiau’r pethau hyn.

31Eithr ceisiwch ei deyrnas ef, a’r pethau hyn a roddir i chwi’n ychwaneg.

32Nac ofna, braidd bychan, canys gwelodd eich Tad yn dda roddi i chwi’r deyrnas.

33Gwerthwch eich eiddo, a rhowch elusen; gwnewch i chwi byrsau na heneiddiant, trysor anniflanedig yn y nefoedd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni ddifetha gwyfyn;

34canys lle mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.

35Bydded eich lwynau chwi wedi eu hymwregysu a’ch canhwyllau yn llosgi,

36a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel pan ddêl a churo yr agoront iddo yn union.

37Gwyn eu byd y gweision hynny, a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn effro; yn wir, meddaf i chwi, fe ymwregysa a pheri iddynt eistedd wrth y bwrdd, a daw a gweini arnynt.

38Ac os ar yr ail neu ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael felly, gwyn eu byd y rhain.

39Gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa awr y deuai’r lleidr, buasai’n effro, ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd.

40A chwithau, byddwch barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.”

41Dywedodd Pedr, “Arglwydd, ai amdanom ni y dywedi’r ddameg hon, ai yntau am bawb?”

42A dywedodd yr Arglwydd, “Pwy, tybed, yw’r goruchwyliwr ffyddlon, pwyllog, a esyd yr arglwydd dros ei deulu i roddi’r dogn bwyd yn ei bryd?

43Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly;

44dywedaf wrthych yn wir, fe’i gesyd ef dros ei holl eiddo.

45Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi dyfod,’ a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,

46fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddydd nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod, a’i dorri’n ddau, ai rifo gyda’r anffyddloniaid.

47Y gwas hwnnw, a wybu ewyllys ei arglwydd heb hwylio i wneud yn ôl ei ewyllys, a gaiff wialenodiau lawer;

48ond yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau’n haeddu curfa, a gaiff ychydig. Pob un y rhoddwyd llawer iddo, llawer a ofynnir ganddo, a’r neb yr ymddiriedasant lawer iddo, mwy a geisiant ganddo.

49Tân a ddeuthum i’w fwrw ar y ddaear; a balched fuaswn pes cyneuasid eisoes!

50Mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd onis gorffenner!

51A dybiwch mai tangnefedd a ddeuthum i’w roddi ar y ddaear? Nag e, meddaf i chwi, ond ymraniad.

52Canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri;

53ymranna tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn ei mam, chwegr yn erbyn ei gwaudd a gwaudd yn erbyn ei chwegr.”

54Ac meddai wrth y tyrfaoedd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yn y fan chwi ddywedwch, ‘Mae cawod yn dyfod’; ac felly y bydd.

55A phan glywch ddeheuwynt yn chwythu, chwi ddywedwch, ‘Mae hi am wres’; ac fe fydd.

56Ragrithwyr, gwyddoch sut i farnu wyneb y ddaear a’r awyr; pa fodd na ddeallwch y cyfnod hwn?

57Paham hyd yn oed ohonoch eich hunain na fernwch yn deg?

58Pan ei o flaen ynad gyda’th wrthwynebwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael gwared ohono, rhag iddo dy lusgo di gerbron y barnwr; a’r barnwr a’th draddoda di i’r rhingyll, a’r rhingyll a’th fwrw di yng ngharchar.

59Meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r hatling eithaf.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help