1O ba le y mae rhyfeloeodd, ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith? onid o hyn, o’ch blysiau sydd yn rhyfela yn eich aelodau?
2Chwenychu yr ydych, ac nid oes gennych ddim; lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gyrraedd; ymladd a rhyfela yr ydych; nid oes gennych ddim am nad ydych yn ceisio;
3yr ydych yn gofyn, ond ni dderbyniwch, am mai ar gam y gofynnwch, fel y treulioch ar eich blysiau.
4Chwi odinebusion, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gyfaill i’r byd, y mae yn ei osod ei hun yn, elyn i Dduw.
5Ai tybio ynteu yr ydych mai yn ofer y dywed yr ysgrythur: “hyd at eiddigedd yr hiraetha ef am yr ysbryd y parodd ei gartrefu ynom”?
6Eithr rhoddi gras
.7Am hynny ymddarostyngwch i Dduw; sefwch yn erbyn diafol, a ffy yntau rhagoch.
8Neshewch at Dduw, a nesha yntau atoch chwithau. Glanhewch eich dwylo, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl deublyg.
9Ymdrallodwch a galerwch ac wylwch: troer eich chwerthin yn alar, a’ch llawenydd yn bendristwch.
10Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac yntau a’ch dyrchaif chwithau.
11Na ddywedwch yn ddrwg am eich gilydd, frodyr; y neb a ddywedo’n ddrwg am frawd, neu a farno’i frawd, dywedyd yn ddrwg y ddeddf a ferni, nid wyt ti wneuthurwr y ddeddf, eithr barnwr.
12Un sydd ddeddfwr a barnwr, yr hwn a ddichon waredu a dinistrio; a thithau, pwy wyt ti i farnu dy gymydog?
13Dowch, ynteu, chwi sy’n dywedyd “Heddyw neu yfory, fe awn i’r ddinas a’r ddinas, a bwrw blwyddyn yno a marchnata ac elwa”,
14a chwithau heb wybod pa beth a fydd eich einioes yfory; canys tarth ydych, dros ychydig yn ymddangos ac yna yn diflannu;
15yn lle dywedyd ohonoch “Os myn yr Arglwydd, byw fyddwn a gwnawn hyn neu hynny”.
16Eithr yn awr, dyma chwithau yn ymffrostio yn eich rhodres; pob cyfryw ymffrost, drwg ydyw.
17Am hynny, y neb wypo wneuthur da ac nas gwnêl, pechod yw iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.