1 Thesaloniaid 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen am ysgrifennu atoch.

2Gwyddoch yn sicr eich hunain mai megis lleidr yn y nos, felly y daw Dydd yr Arglwydd.

3Pan ddywed pobl “Y mae’n dawel a diogel,” y pryd hwnnw y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf, fel gwewyr gwraig ar esgor, ac ni ddihangant ddim.

4Ond, frodyr, nid ydych chwi yn y tywyllwch fel y goddiweddo’r dydd chwi fel lleidr.

5Meibion y goleuni ydych chwi oll, a meibion y dydd. Nid eiddo’r nos na’r tywyllwch ydym ni.

6Gan hynny, na chysgwn, fel y rhelyw, eithr byddwn effro a sobr,

7canys y rhai a gysgant y nos y cysgant, a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant.

8Eithr byddwn ni sy’n eiddo’r dydd yn sobr, wedi gwisgo amdanom lurig ffydd a chariad, a gobaith iachawdwriaeth yn helm,

9oblegid ni neilltuodd Duw ni i ddigofaint ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist

10a fu farw drosom, fel, pa un bynnag ai yn effro ai huno y byddom, y caffom fyw gydag ef.

11Gan hynny, anogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megis yn wir y gwnewch.

12Dymunwn arnoch, frodyr, gydnabod y rhai sy’n llafurio yn eich mysg ac yn eich blaenori yn yr Arglwydd ac yn eich cynghori.

13Mawrygwch hwynt hefyd mewn cariad oherwydd eu gwaith. Byddwch heddychol yn eich plith eich hunain.

14Dymunwn arnoch, frodyr, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y rhai digalon, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

15Gwyliwch rhag talu o neb ddrwg am ddrwg, eithr ceisiwch yn wastadol les eich gilydd a phawb.

16Llawenhewch yn wastadol.

17Gweddïwch yn ddi-baid.

18Byddwch ddiolchgar am bopeth. Hynny yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.

19Na ddiffoddwch yr Ysbryd.

20Na ddirmygwch broffwydoliaethau.

21Profwch bopeth, glynwch wrth y da.

22 Ymgedwch rhag pob math o ddrwg.

23A Duw y tangnefedd Ei Hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer chwi ysbryd, enaid, a chorff, yn ddianaf a difai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.

24Ffyddlon yw yr Hwn a’ch geilw ac Ef a’i gwna.

25Frodyr, gweddïwch drosom ninnau.

26Cyferchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd.

27Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd i ddarllen y llythyr i’r holl frodyr.

28Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help