1A chlywodd yr apostolion a’r brodyr a oedd yn Iwdea dderbyn hyd yn oed o’r cenhedloedd air Duw.
2A phan aeth Pedr i fyny i Gaersalem, fe ddechreuodd teulu’r enwaediad ymryson ag ef,
3gan ddywedyd iddo fyned i mewn at wŷr dienwaededig ac iddo fwyta gyda hwynt.
4Ac fe ddechreuodd Pedr esbonio iddynt o’r bron,
5gan ddywedyd, “Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddïo, a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr a ollyngid wrth bedair congl o’r nef, a daeth hyd ataf;
6ac wrth syllu arni dechreuais amgyffred, a gwelais bedwarcarnolion y ddaear a’r bwystfilod a’r ymlusgiaid ac adar y nef;
7clywais hefyd lef yn dywedyd wrthyf, ‘Cyfod, Pedr; lladd a bwyta.’
8Ac meddwn i, ‘Na, na, Arglwydd; canys dim cyffredin neu aflan nid aeth erioed i’m genau.’
9Atebodd eilwaith lef o’r nef, ‘Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.’
10A hyn a fu deirgwaith, a thynnwyd y cyfan i fyny’n ôl i’r nef.
11Ac ar unwaith dyna dri gŵr yn dyfod a sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Gesarea ataf.
12Ac fe ddywedodd yr Ysbryd wrthyf am fyned gyda hwynt heb wahaniaethu ddim. Ac fe aeth gyda ni hefyd y chwe brawd hyn, ac aethom i mewn i dŷ’r gŵr.
13Ac fe fynegodd i ni pa fodd y gwelsai’r angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dywedyd, ‘Anfon i Ioppa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr,
14yr hwn a lefara wrthyt bethau y’th achubir di a’th holl deulu drwyddynt.’
15Ac wrth fy mod yn dechrau llefaru, disgynnodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy, megis arnom ninnau ar y cyntaf.
16A chofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedai, ‘A dwfr y bedyddiodd Ioan, ond chwi, fe’ch bedyddir â’r Ysbryd Glân.’
17Os rhoddodd Duw, ynteu, iddynt hwy yr unrhyw ddawn ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu lluddias Duw?”
18Wedi clywed hyn distewi a wnaethant a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Felly hyd yn oed i’r cenhedloedd y rhoddes Duw yr edifeirwch i fywyd.”
19Y rhai a wasgarasid, ynteu, oherwydd y cyfyngder a godasai ynglŷn â Steffan, teithiasant hyd Phoenice a Chyprus ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond yn unig wrth Iddewon.
20Ond yr oedd rhai ohonynt yn wŷr o Gyprus a Chyrene, a hwy, wedi dyfod i Antiochia, dechreuasant lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan draethu’r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
21Ac yr oedd llaw’r Arglwydd gyda hwynt, a nifer mawr a gredasai a droes at yr Arglwydd.
22A daeth y gair amdanynt i glustiau’r eglwys a oedd yng Nghaersalem, ac anfonasant Farnabas hyd Antiochia;
23wedi iddo ef gyrraedd a gweled gras Duw, bu lawen ganddo, ac anogai bawb o lwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd;
24canys yr oedd yn ŵr da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd cryn dyrfa i’r Arglwydd.
25Ac fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael fe’i dug i Antiochia.
26Ac am flwyddyn gyfan yr ymgynullasant gyda’r eglwys ac y dysgasant gryn dyrfa, ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion gyntaf yr enw “Cristnogion.”
27Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Gaersalem i Antiochia.
28A chyfododd un ohonynt, a’i enw Agabus, ac arwyddo trwy’r Ysbryd fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl fyd — yr hwn a fu yn amser Clawdius.
29A phenderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt yn ôl ei fodd, anfon at wasanaeth y brodyr a oedd yn trigo yn Iwdea.
30A hyn a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.