1Y mae’n rhaid ymffrostio. Nid buddiol mo hynny; eto deuaf at weledigaethau a datguddiadau’r Arglwydd.
2Adwaen ddyn yng Nghrist a gipiwyd i fyny i’r drydedd nef, bedair blynedd ar ddeg yn ôl, — ai yn y corff ni wn, ai allan o’r corff ni wn, ond gŵyr Duw.
3Gwn am y cyfryw ddyn — ai yn y corff ai allan o’r corff ni wn i, ond gŵyr Duw —
4ddarfod ei gipio i Baradwys a chlywed ohono eiriau anhraethadwy nad cyfreithlawn i ddyn eu hadrodd.
5Am y cyfryw ddyn yr ymffrostied, eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendid.
6Canys os dymunaf ymffrostio ni byddaf ynfyd, oblegid y gwirionedd a ddywedaf. Eithr ymataliaf, rhag i rywun synied yn uwch amdanaf na’r hyn a wêl ynof ac a glyw gennyf oblegid godidowgrwydd y datguddiadau.
7Oblegid hyn, fel na’m tra-dyrchefid rhodded i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i’m dyrnodio, fel na’m tra-dyrchafwn fy hun.
8Gyda golwg ar y peth hwn atolygais deirgwaith ar fod iddo ymadael â mi.
9Eithr dywedodd wrthyf: Digon i ti fy ngras i. Canys mewn gwendid y perffeithir nerth. Yn dra llawen, gan hynny, yr ymffrostiaf yn hytrach yn y gwendidau fel y byddo nerth Crist yn gysgod drosof.
10Am hynny yr wyf yn ymfodloni mewn gwendidau, mewn gwaradwyddiadau, mewn anffodion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau er mwyn Crist. Canys pan fwyf wan, y pryd hwnnw yr wyf gadarn.
11Euthum yn ynfyd. Chwychwi a’m gorfododd. Canys dylaswn gael fy nghymeradwyo gennych chwi. Oblegid ni fûm, mewn unrhyw fodd, yn llai na’r “uwch-apostolion” er nad wyf innau’n ddim.
12Cyflawnwyd arwyddion apostol yn eich plith ym mhob amynedd, mewn arwyddion a rhyfeddodau ac mewn nerthoedd.
13Ym mha beth, ynteu, yr ydych yn llai eich braint na’r eglwysi eraill onid hwyrach oblegid na fûm i’n faich arnoch? Maddeuwch i mi hyn o gamwri.
14Wele’r trydydd tro yr wyf yn barod i ddyfod atoch ac ni fyddaf yn faich arnoch. Canys nid eich eiddo yr wyf yn ei geisio ond chwychwi. Canys nid dyletswydd y plant yw trysori ar gyfer y rhieni ond y rhieni ar gyfer y plant.
15Gyda’r parodrwydd mwyaf y treuliaf i ac yr ymdreuliaf dros eich eneidiau. Ai po fwyaf y caraf i chwi lleiaf oll y’m cerir i, tybed?
16Bid felly, ni bûm i’n faich arnoch. Eithr gan fy mod yn greadur cyfrwys fe’ch deliais chwi hwyrach trwy ddichell.
17A ddeliais i fantais arnoch drwy unrhyw un o’r rhai a anfonais atoch?
18Ceisiais gan Ditws ddyfod atoch ac anfonais y brawd gydag ef. A wnaeth Titws yn fawr o’i gyfle i elwa arnoch? Onid yn yr un Ysbryd y rhodiasom? Onid yn yr un olion y troediasom?
19Ers talm bellach yr ydych yn tybied ein bod yn ein hamddiffyn ein hunain ger eich bron chwi. Gerbron Duw ac yng Nghrist y llefarwn. Ac y mae’r cwbl, anwylyd, er mwyn eich adeiladaeth chwi.
20Canys y mae ofn arnaf rhag i mi ddyfod a’ch cael heb fod yn gyfryw ag a ddymunaf, a’m cael innau gennych chwi yn gyfryw na ddymunech. Ofnaf y gall fod cynnen, cenfigen, pyliau o lidiowgrwydd, cwerylon, enllibiau, hustyngau, ymchwyddiadau, terfysgoedd.
21Ofnaf rhag i’m Duw, wedi i mi ddyfod drachefn, fy narostwng o’ch achos chwi, ac y bydd i mi alaru oblegid llawer o’r rhai a bechodd gynt ac sydd heb edifarhau am yr aflendid, y puteindra, a’r trythyllwch a wnaethant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.