1“Na chynhyrfer eich calon; credwch yn Nuw a chredwch ynof innau.
2Yn nhŷ fy nhad y mae trigfannau lawer; onidê, a ddywedaswn i wrthych fy mod yn myned i baratoi lle i chwi?
3Ac os af a pharatoi lle i chwi, deuaf yn f’ôl a chymeraf chwi ataf fy hun, fel y byddoch chwithau hefyd lle yr wyf i.
4A lle yr wyf i yn myned, yr ydych yn gwybod y ffordd.”
5Medd Thomas wrtho: “Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt yn myned; pa fodd y gwyddom y ffordd?”
6Medd Iesu wrtho: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid oes neb yn dyfod at y tad ond trwof i.
7Ped adnabuasech fi, adnabuasech fy nhad hefyd; o hyn allan yr ydych yn ei adnabod, ac fe’i gwelsoch.”
8Medd Phylip wrtho: “Arglwydd, dangos i ni’r tad, a dyna ddigon inni.”
9Medd yr Iesu wrtho: “A ydwyf gyda chwi ers cyhyd ac nid adnabuost fi, Phylip? Y neb a’m gwelodd i a welodd y tad. Sut y dywedi di ‘Dangos i ni ’r tad?’
10Oni chredi fy mod i yn y tad a’r tad ynof i? Y geiriau a ddywedaf i wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y tad, wrth aros ynof i, sy’n gwneuthur ei weithredoedd.
11Credwch fi fy mod i yn y tad, a’r tad ynof innau, onidê credwch er mwyn y gweithredoedd eu hunain.
12Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr hwn sy’n credu ynof i, fe wna hwnnw hefyd y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur, ac fe wna rai mwy na’r rhain, gan fy mod i yn myned at y tad.
13A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf, fel y gogonedder y tad yn y mab.
14Os gofynnwch ddim gennyf yn f’enw i, mi a’i gwnaf.
15Os ydych yn fy ngharu i, fy gorchmynion i a gedwch;
16a minnau a ofynnaf i’r tad, a dyry yntau i chwi un arall i fod gyda chwi yn blaid i chwi am byth,
17ysbryd y gwirionedd, na all y byd ei dderbyn am nad ydyw yn ei weled na’i adnabod. Yr ydych chwi yn ei adnabod gan ei fod yn aros gyda chwi ac y bydd ynoch.
18Ni’ch gadawaf yn amddifaid, yr wyf yn dyfod atoch.
19Ychydig eto ac ni wêl y byd fi mwy, ond gwelwch chwi fi, oherwydd byw wyf i, a byw fyddwch chwithau hefyd.
20Yn y dydd hwnnw y gwybyddwch chwi fy mod i yn fy nhad a chwithau ynof i a minnau ynoch chwithau.
21Yr hwn sydd a’m gorchmynion ganddo ac yn eu cadw, hwnnw sydd yn fy ngharu. Yr hwn sy’n fy ngharu i fe’i cerir gan fy nhad, a charaf innau ef, a mi a’m hamlygaf fy hunan iddo.”
22Medd Iwdas wrtho — nid hwnnw o Gerioth — : “Arglwydd, a beth sy’n bod, dy fod yn myned i’th amlygu dy hun i ni ac nid i’r byd?”
23Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Os yw neb yn fy ngharu i, fe geidw fy ngair, a châr fy nhad yntau, a deuwn ato a gwnawn ein trigfan gydag ef.
24Yr hwn nid yw’n fy ngharu, fy ngeiriau ni cheidw a’r gair yr ydych yn ei glywed nid yr eiddof i ydyw ond eiddo’r un a’m hanfonodd, y tad.
25Hyn a ddywedais wrthych a minnau’n aros gyda chwi.
26Ond eich plaid, yr Ysbryd Glân, a enfyn y tad yn fy enw i, dysg hwnnw i chwi bopeth, a dwg ar gof i chwi bopeth a ddywedais i wrthych.
27Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi, fy nhangnefedd i yr wyf yn ei roddi i chwi, nid fel y mae’r byd yn rhoddi yr wyf i yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer ac na lyfrhaed eich calon.
28Clywsoch fi’n dywedyd wrthych: ‘Yr wyf yn myned ac yr wyf yn dyfod atoch.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenychu am fy mod yn myned at y tad, gan fod y tad yn fwy na mi.
29Ac yn awr yr wyf wedi dywedyd wrthych cyn ei ddigwydd, fel, pan ddigwyddo, y credoch.
30Mwyach ni siaradaf lawer gyda chwi, canys y mae pennaeth y byd yn dyfod, ac ynof i nid oes ganddo ddim;
31ond fel y gwypo’r byd fy mod yn caru’r tad, ac megis y gorchmynnodd y tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddiyma.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.