1A syllodd Paul ar y Sanhedrin, a dywedodd, “A chydwybod gwbl dda y cyflewnais i fy neiliadaeth i Dduw hyd y dydd heddiw.”
2Ac archodd yr Archoffeiriad Ananias i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei enau.
3Yna fe ddywedodd Paul wrtho, “Dy daro dithau a wna Duw, di bared wedi ei wyngalchu. A wyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y gyfraith, ac eto gan dorri’r gyfraith yn gorchymyn fy nharo?”
4Dywedodd y rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, “A wyt ti yn difrïo Archoffeiriad Duw?”
5Ac ebe Paul, “Ni wyddwn, frodyr, ei fod yn Archoffeiriad; canys y mae’n ysgrifenedig, Am bennaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.”
am holi yn fanylach yn ei gylch.21Yn awr, na chydsynia di â hwynt, canys y mae gwŷr o’u plith, mwy na deugain, yn cynllwyn yn ei erbyn; ymddiofrydu a wnaeth y rhain na fwytaent ac nad yfent hyd nes ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am yr addewid oddiwrthyt ti.”
22Gollyngodd y capten, felly, y llanc ifanc, gan orchymyn, “Na ddywed wrth neb iti hysbysu’r pethau hyn i mi.”
23Ac wedi iddo alw ato ryw ddau o’r canwriaid, fe ddywedodd, “Paratowch ddau can milwr, i gyrchu hyd Gesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch a dau can picellwr, ar y drydedd awr o’r nos.”
24Yr oeddynt i ddarparu anifeiliaid hefyd, i osod Paul arnynt a’i ddwyn yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw.
25Ac ysgrifennodd lythyr yn cynnwys hyn o sylwedd.
26“Clawdius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, henffych well.
27Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda’r fintai ac achubais ef, wedi deall mai Rhufeiniwr oedd;
28ac a mi’n ewyllysio cael gwybod yr achos eu bod yn achwyn arno, dygais ef i lawr ger bron eu Sanhedrin.
29A chefais yr achwynid arno ynghylch cwestiynau eu cyfraith hwynt, ond nad oedd dim cwyn arno a haeddai farwolaeth neu garchar.
30A chan yr hysbyswyd i mi fod cynllwyn i fod yn erbyn y gŵr, yr wyf fi yn ei anfon atat ti ar unwaith, wedi gorchymyn i’w gyhuddwyr hwythau draethu yn ei erbyn ger dy fron di.”
31Felly yn ôl y cyfarwyddyd a gawsant fe gymerth y milwyr Baul i ffwrdd a’i ddwyn o hyd nos i Antipatris.
32A thrannoeth gadasant i’r gwŷr meirch fynd ymaith gydag ef, a dychwelasant i’r castell.
33Hwythau, wedi mynd i mewn i Gesarea, rhoesant y llythyr i’r rhaglaw, a chyflwynasant Baul hefyd iddo.
34Ac wedi iddo yntau ei ddarllen, a gofyn o ba dalaith yr oedd, a deall mai o Gilicia,
35eb ef, “Mi wrandawaf dy achos, pan ddêl dy gyhuddwyr hwythau.” A gorchmynnodd ei gadw ef ym mhlasty Herod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.