1Am hynny, fy mrodyr annwyl, yr hiraethaf amdanoch, fy llawenydd a’m coron, sefwch felly yn yr Arglwydd, garedigion.
2Yr wyf yn annog Euodias ac yn annog Syntyche i synied yr un peth yn yr Arglwydd.
3Ie, yr wyf yn erfyn arnat tithau hefyd, wir gymar, cymorth hwynt, oherwydd iddynt gydymdrechu â mi yn yr efengyl gyda Chlement a’r rhelyw o’m cydweithwyr sydd a’u henwau yn llyfr y bywyd.
4Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastad; drachefn meddaf, llawenhewch.
5Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos.
6Na phryderwch mewn dim, ond ymhopeth gwneler eich deisyfiadau’n hysbys i Dduw mewn gweddi ac ymbil gyda diolch.
7A thangnefedd Duw sydd uwchlaw pob deall a werchyd eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8Bellach, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd urddasol, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd ddihalog, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd raslawn, od oes dim rhinwedd ac, od oes dim clod, gwnewch gyfrif o’r pethau hyn.
9Y pethau a ddysgasoch hefyd ac a dderbyniasoch ac a glywsoch ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r tangnefedd a fydd gyda chwi.
10Mi a lawenychais hefyd yn fawr yn yr Arglwydd oherwydd adfywio ohonoch yn awr o’r diwedd eich gofal amdanaf; a buoch yn ofalus yn hyn hefyd, ond bod diffyg cyfle arnoch;
11nid fy mod yn siarad oherwydd eisiau; canys mi a ddysgais ymha gyflwr bynnag y byddwyf fod ar ben fy nigon ynddo.
12Gwn pa fodd i ymostwng, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ymhob dim ac ymhopeth dysgais y dirgelwch pa fodd i fod yn llawn ac yn newynog, a pha fodd i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder.
13Gallaf bopeth yn yr hwn a’m nertha.
14Er hynny da y gwnaethoch gydgyfranogi o’m gorthrymder i.
15Gwyddoch chwi eich hunain hefyd, o Philipiaid, na chyfrannodd yr un eglwys i mi yn nechreu’r efengyl pan euthum allan o Facedonia o ran rhoddi a derbyn ond chwychwi’n unig,
16oblegid hyd yn oed yn Thesalonica anfonasoch unwaith ac eilwaith wrth f’anghenraid.
17Nid fy mod yn ceisio’r rhodd, ond ceisio’r wyf y ffrwyth sydd ar gynnydd i’ch cyfrif chwi.
18Ond derbyniais bopeth, ac y mae gennyf helaethrwydd; cyflawnwyd fi oherwydd caffael ohonof gan Epaphroditus y pethau oddiwrthych chwi, arogl per, aberth cymeradwy, wrth fodd Duw.
19A’m Duw i a gyflawna eich holl raid yn ôl ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu.
20Yn awr i’n Duw a’n Tad gogoniant yn oes oesoedd; Amen.
21Cyferchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich cyfarch.
22Y mae’r saint i gyd yn eich cyfarch, ac yn bennaf y sawl sydd o deulu Cesar.
23Gras yr Arglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.