Marc RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)
RHAGAIR Ers blynyddoedd bellach y mae galw taer am gyfieithiad Cymraeg newydd o’r Testament Newydd. Ystyriwyd y mater mewn cyfarfod o Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru; a bernid y byddai’n rhaid, ar y cychwyn beth bynnag, i’r rhai a ymgymerai â’r gorchwyl fod mewn cyfleustra i gyfarfod yn fynych er trafod y gwaith ym mhob agwedd arno. Gan hynny fe ymgynghorodd y Deon Diwinyddiaeth â’i gyd-athrawon ym Mangor, ac fe alwyd pwyllgor o wyth i ddechreu ar y gwaith. Cymeradwywyd hynny mewn cyfarfod diweddarach, a chyhoeddir y cyfieithiad hwn dan nawddogaeth yr Adran.Ymddangosodd cyfieithiad Wm. Salesbury yn 1567. Cyfieithiad newydd a geir ym Meibl Wm. Morgan, a gyhoeddwyd yn 1588; a’r Beibl hwnnw wedi ei ddiwygio ydyw cyfieithiad awdurdodedig 1620, sydd ar arfer yn ein plith hyd heddyw, bron yn ddigyfnewid oddieithr (yn aml er gwaeth) yn ei orgraff. Tri rheswm sydd fod angen cyfieithiad newydd yn awr: — Yn gyntaf, y mae llawer o lawysgrifau hŷn a gwell o’r Testament Newydd neu rannau ohono wedi eu darganfod ar ol hynny, a gwybodaeth lawer sicrach wedi ei hennill o’u gwerth cymharol; ac fe ellir yn awr gael gwell testun Groeg i gyfieithu ohono. Yn ail, y mae llawer o oleuni wedi ei daflu ar Roeg y Testament Newydd, nid yn unig drwy ymchwiliadau manylach i gystrawen a geiriadaeth yr Ysgrythyr, ond hefyd trwy fod nifer mawr o ysgrifau o bob natur mewn Groeg Helenistaidd wedi eu darganfod a’u hastudio yn y blynyddoedd diweddar. Yn drydydd, y mae’r Gymraeg, fel pob iaith fyw, wedi newid llawer mewn tri chan mlynedd; a hyd yn oed lle mae’r hen gyfieithiad yn gywir, gellir yn fynych roi ystyr y gwreiddiol yn fwy diamwys i’r darllenydd Cymraeg heddyw. Mewn tri pheth, gan hynny, y mae’r cyfieithiad hwn yn gwahaniaethu oddiwrth yr hen: (i) yn y testun; (2) yn nehongliad y Groeg; (3) yng nghyflead yr ystyr yn Gymraeg.(1) Y Testun. — Nid amcanwyd gwneuthur testun newydd. Dewiswyd yn gyffredin ddarlleniadau Nestle. Y mae testun Nestle wedi ei ffurfio o destunau Tischendorf, Westcott-Hort, a Bernhard Weiss, trwy ddethol y darlleniadau y cytuna o leiaf ddau o’r tri arnynt. Ond yn aml yn y cyfieithiad dilynwyd yr ystyr a gyfleir trwy atalnodiant a awgrymir gan feirniaid diweddarach; ac mewn rhai mannau, a nodir ar waelod y ddalen, dewiswyd yn hytrach ddilyn darlleniadau Westcott-Hort, lle mae testun von Soden a detholiad gwych Souter o dystiolaeth yr hen awdurdodau yn dangos bod beirniadaeth ddiweddar yn cytuno â hwy.(2) Dehongliad. — Er mai gwahaniaeth yn y testun Groeg a bair lawer o’r gwahaniaeth rhwng y cyfieithiad hwn a’r hen, eto cyfyd llawer ohono o ganfod ystyr wahanol yn yr un geiriau; er enghraifft, yn vi 20, cyfieithiad o destun gwell ydyw petrusai lawer, ond cyfieithiad cywirach o’r hen ddarlleniad ydyw noddai.Anfynych yn yr hen gyfieithiad y ceir amser amherffaith y ferf Roeg wedi ei drosi, fel yn yr adnod uchod, â’r amherffaith Cymraeg; yn lle hynny camgyfieithir ef o hyd â’r amser gorffennol. Yn i 5, er enghraifft, ceir aeth a bedyddiwyd yn lle âi a bedyddid y Groeg, ac felly bron bob amser — troi’r arferiad yn ddigwyddiad. Dengys camgyfieithiad dybryd fel pan welsant yn lle pa bryd bynnag y gwelent yn 3:11 mai yn y dehongliad yr oedd y diffyg. Yn y cyfieithiad hwn fe drosir yr amherffaith Groeg â’r amherffaith Cymraeg, oddieithr mewn ychydig fannau lle mae i’r naill yr ystyr ddechreuol nas awgrymir yn y llall, megis yn i 21 a v 42. Cadwyd yr amserau Groeg eraill hefyd yn gyson oddieithr lle mae prïod-ddull y Gymraeg yn gofyn cyfnewidiad megis rhoi’r gorberffaith yn lle’r gorffennol. Yn yr hen gyfieithiad defnyddir y gorffennol yn wastad am y presennol hanesyddol, a thrwy hynny dileir un o nodweddion arddull Marc. Y mae’r presennol hanesyddol yn beth cyffredin mewn ieithoedd, ac ni phetruswyd ei drosi’n llythrennol yma; y mae’r gystrawen yn berffaith gyfreithlon yn Gymraeg, a buan iawn y cynefina’r darllenydd â hi yn Efengyl Marc. I’n bryd ni, y mae cadw amserau’r Groeg yn cadw hefyd yn Gymraeg lawer o fywyd yr hanes gwreiddiol a gollir yn undonedd y gorffennol parhaus yn yr hen gyfieithiad.(3) Cyflead. — Gan fod rhai geiriau wedi newid eu hystyron, y mae ambell ymadrodd, oedd yn gyfieithiad cywir yn 1620, erbyn hyn yn cyfleu meddwl gwahanol. Yn y cyfieithiad hwn fe geisiwyd dewis geiriau Cymraeg a fyddai’n ddealladwy, ac a gyfleai i’r darllenydd, mor agos fyth ag y gellid, ystyr y Groeg. Weithiau yn yr hen gyfieithiad fe dywyllir y meddwl trwy droi prïod-ddulliau Groeg yn llythrennol; yma fe amcanwyd cyfleu’r ystyr trwy ddefnyddio’r prïod-ddulliau Cymraeg cyfatebol.Y mae’r hen gyfieithiad yn ddiofal ynghylch trefn y geiriau gwreiddiol, ac yn fynych yn colli min yr ymadrodd trwy ei newid. Yma fe geisiwyd dilyn y drefn hyd y caniatâi prïod-ddull y Gymraeg. Yn y Groeg gwreiddiol fe ddaw’r ferf yn fynych o flaen ei thestun, fel y daw’n gyffredin yn Gymraeg; yn hyn dilynasom y Groeg yn ddi-eithriad. Lle rhagflaenir berf gan enw a fo’n destun iddi, fe gadwyd y drefn pan oedd rhyw bwys ar yr enw, neu ryw reswm rheithegol a barai fod y drefn honno’n gweddu yn Gymraeg; ond lle ni welid un rheswm dros ei chadw fe’i trowyd i’r drefn Gymraeg arferol. Bu raid newid trefn rhagenw a berf weithiau er mwyn gochel pwyslais sy’n annaturiol mewn Cymraeg diweddar; ond gan mwyaf fe allwyd cadw trefn rhagferf a berf, a thrwy hynny gyfleu nid yn unig ystyr foel y geiriau, ond rhyw gymaint o effaith a phwynt yr ymadrodd.Y mae’n werth cael cyfieithiad Cymraeg newydd o’r Ysgrythyrau pe na bai ond am fod yr iaith yn cadw llawer o nodweddion yr hen ieithoedd, ac y gellir gan hynny drosglwyddo ynddi lawer o naws ac arlliw’r gwreiddiol. Yn wyneb addaster ein hiaith i’r pwrpas, ystyriwn mai anffawd fyddai peidio a’i defnyddio i roi i’w darllenwyr ddehongliad byw o wir ystyr y testun yng ngoleuni’r wybodaeth fanylach sy’n awr ar gael. Y mae ym mryd y pwyllgor ganlyn ymlaen â’r gwaith a ddechreuasant ar yr Efengylau, ac y mae pwyllgor arall eisoes yn cydweithio mewn maes arall. Hyderir, os bydd y llafur hwn yn gymeradwy, y gellir mewn amser droi’r holl Destament yn unwedd, dan nawdd Adran Ddiwinyddol Urdd y Graddedigion. Yn y cyfamser bydd yn dda gan y Pwyllgor dderbyn ac ystyried pob awgrym gan y cyfarwydd er gwellhau a pherffeithio’r ymgais cyntaf hwn. John Morris-Jones, Cadeirydd; D. Emrys Evans, Ysgrifennydd; T. Hudson-Williams; J. D. Jones; J. Morgan Jones; S. Morris; T. Rees; Ifor Williams. Bangor,15 Chwef. 1921.Yn ôl Marc