Amos 4 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Clywch y gair hwn, fuchod Basan,

Y sydd ym mynydd Samaria,

Yn gorthrymu’r gweiniaid,

Yn ysigo’r tlodion,

Yn dywedyd bob un wrth ei harglwydd,

“Dwg ac yfwn.”

2Tyngodd fy Arglwydd Iafe i’w sancteiddrwydd,

“Wele’r dyddiau’n dyfod arnoch

Y dygir chwi ymaith â thryferau,

A’r gweddill ohonoch â bachau pysgota;

3A thrwy adwyon yr ewch allan,

Bob un ar ei chyfer,

A bwrir chwi i Harmon.”

Medd Iafe.

4“Deuwch i Fethel a throseddwch,

Yng Ngilgal ychwanegwch droseddu;

A dygwch erbyn y bore eich aberthau,

A’ch degymau erbyn y trydydd dydd;

5A llosgwch ddiolch-offrwm o surdoes,

A chyhoeddwch offrymau gwirfodd, hysbyswch,

Canys hynny a hoffwch, Feibion Israel.”

Medd fy Arglwydd Iafe.

6“Rhoddais innau i chwi

Lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd,

Ac eisieu bara yn eich holl leoedd;

Eto ni ddychwelasoch ataf.”

Medd Iafe.

7“Ateliais innau’r glaw oddiwrthych,

Ac eto dri mis hyd y cynhaeaf;

Pan lawiwn ar un ddinas,

Ar ddinas arall ni lawiwn;

Glewid ar un rhan,

A chrinai’r rhan ni lawiai arni;

8Ac ymlusgai dwy ddinas neu dair i un ddinas,

I yfed dwfr, ac nis digonid;

Eto ni ddychwelasoch ataf.”

Medd Iafe.

9“Tarewais chwi â deifiad ac â llwydni,

Diffeithiais eich gerddi a’ch gwinllannoedd,

A’ch ffigyswydd a’ch olewydd a fwytâi’r lindys;

Eto ni ddychwelasoch ataf.”

Medd Iafe.

10“Anfonais haint i’ch plith, yn ol dull yr Aifft,

Lleddais eich gwŷr ifainc â’r cleddyf,

Gan gymryd eich meirch yn gaeth;

A pherais i ddrewi’ch gwersylloedd godi hyd at eich ffroenau;

Eto ni ddychwelasoch ataf.”

Medd Iafe.

11“Dymchwelais rai ohonoch

Fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,

Ac aethoch fel pentewyn a gipiwyd o’r gynneu;

Eto ni ddychwelasoch ataf.”

Medd Iafe.

12“Am hynny fel hyn y gwnaf iti, Israel — .

Am mai hyn a wnaf iti,

Bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th Dduw.”

13Canys ef yw lluniwr y mynyddoedd,

A chrëwr y gwynt,

Ac y sy’n mynegi i ddyn beth yw ei feddwl;

Gwneuthurwr gwawr a gwyll,

Ac y sy’n sengi ar uchelfeydd y ddaear;

Iafe, Duw lluoedd, yw ei enw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help