1A gwelais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo allwedd y pwll a chadwyn fawr yn ei law.
2A gafaelodd yn y ddraig, yr hen sarff, sef Diafol a Satan, a rhwymodd ef am fil o flynyddoedd;
3yna bwriodd ef i’r pwll, a chloi a selio arno fel na thwyllo’r cenhedloedd mwyach, hyd oni chyflawner y mil blynyddoedd; wedi hynny rhaid yw ei ryddhau am ychydig amser.
4Yna gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y sawl y rhoddwyd iddynt hawl i farnu, sef eneidiau’r rhai a ddienyddiwyd am dystiolaeth Iesu ac am air Duw, a’r rhai nad addolasant y bwystfil na’i ddelw ef ac na chymerasant y nod ar eu talcen ac ar eu llaw. A buant fyw a theyrnasu gyda Christ fil o flynyddoedd.
5A’r gweddill o’r meirw, ni fuant fyw nes cyflawni’r mil blynyddoedd. Dyma’r atgyfodiad cyntaf.
6Gwyn ei fyd a sanctaidd yw’r hwn sydd iddo ran yn yr atgyfodiad cyntaf; ar y rhai hyn ni fedd yr ail farwolaeth awdurdod, eithr byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd.
7A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan o’i garchar,
8ac â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w cynnull ynghyd i’r rhyfel, a’u nifer fel tywod y môr.
9Ac aethant i fyny dros led y ddaear, ac amgylchu gwersyll y saint a’r ddinas gu; a disgynnodd tân o’r nef a difaodd hwynt;
10a bwriwyd diafol, eu twyllwr, i’r llyn o dân a brwmstan, lle hefyd, y mae’r bwystfil a’r gau-broffwyd, a phoenydir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
11 A gwelais orsedd fawr wen ac yn eistedd arni yr un y ffodd y ddaear a’r nef o’i ŵydd, a lle nis cafwyd iddynt.
12A gwelais y meirw, fawr a mân, yn sefyll gerbron yr orsedd, ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall — llyfr y bywyd — a barnwyd y meirw wrth y pethau ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
13A rhoddodd y môr y meirw oedd ynddo, a rhoddodd angau ac annwn y meirw oedd ynddynt, a barnwyd pob un yn ôl eu gweithredoedd.
14A bwriwyd angau ac annwn i’r llyn tân. Dyma’r ail farwolaeth, y llyn tân.
15A phwy bynnag nis cafwyd yn ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn tân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.