Rhufeiniaid 10 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Frodyr, dymuniad fy nghalon a’m deisyfiad ar Dduw drostynt sydd am eu hiachawdwriaeth.

2Canys tystiaf iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ôl adnabyddiaeth ohono.

3Oblegid, heb wybod cyfiawnder Duw, a cheisio sefydlu yr eiddynt eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

4Canys Crist yw diwedd deddf, er cyfiawnder i bawb a gred.

5Canys ysgrifenna Moses am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, mai’r dyn a’i gwna a fydd byw trwyddo.

14Pa fodd gan hynny y galwant ar un na chredasant ynddo? A pha fodd y credant mewn un nas clywsant? A pha fodd y clywant heb neb yn cyhoeddi?

15A pha fodd y cyhoeddant onis danfonir? Fel yr ysgrifennwyd: Brydferthed traed efengylwyr pethau da.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help