1Ac wedi i’r cythrwfl beidio, danfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog wrth ffarwelio aeth ymaith i gyrchu i Facedonia.
2Ac wedi myned drwy’r parthau hynny a’u hannog hwynt â llawer gair, daeth i Roeg;
3ac wedi iddo dreulio tri mis, gan i’r Iddewon wneuthur cynllwyn yn ei erbyn, ac yntau ar fedr hwylio i Syria, daeth i’w feddwl ddychwelyd trwy Facedonia.
4A chydymdeithiodd ag ef Sopater, mab Pyrrhus, o Ferea, ac o’r Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, a Gaius o Dderbe a Thimotheus, ac o Asia Tychicus a Throffimus.
5Yr oedd y rhain, wedi iddynt gyrraedd yno, yn aros amdanom yn Nhroas;
6ninnau, hwyliasom wedi dyddiau’r bara croyw o Philippi, a deuthom atynt i Droas ymhen pum niwrnod, ac yno treuliasom saith niwrnod.
7Ac ar y dydd cyntaf wedi’r Saboth, a ni wedi ymgynnull i dorri bara, dechreuodd Paul eu hannerch (yr oedd ar fedr mynd ymaith drannoeth), ac estynnodd ei araith hyd ganol nos.
8Yr oedd lampau ddigon yn y llofft, lle yr oeddem wedi ymgynnull;
9A rhyw ŵr ifanc, a’i enw Ewtychus, oedd yn eistedd yn y ffenestr, a chysgadrwydd trwm yn ei lethu tra oedd Paul yn llefaru’n faith; ac fe’i gorthrymwyd gan gwsg, a syrthiodd o’r drydedd lofft i lawr, ac fe’i codwyd yn gorff.
10Ac aeth Paul i lawr, a syrthio arno, ac wedi ymaflyd amdano fe ddywedodd, “Peidiwch â brawychu; canys y mae ei fywyd ynddo.”
11Ac wedi mynd i fyny a thorri’r bara a’i brofi ac ymddiddan dalm hyd doriad dydd, yna aeth ymaith.
12A dygasant y llanc yn fyw, ac, fe’u cysurwyd hwynt yn anghyffredin.
13Aethom ni o’i flaen i’r llong a hwyliasom tuag Assos, gan fwriadu cymryd Paul i fyny oddiyno, canys felly yr oedd ef wedi cyfarwyddo, gan fwriadu myned ei hun dros y tir.
14A phan ddaeth i gyfarfod â ni yn Assos, cymerasom ef i fyny, a deuthom i Fitylene,
15ac wedi morio oddiyno drannoeth cyraeddasom gyferbyn â Chios, a thradwy croesi a wnaethom i Samos, a’r dydd wedyn deuthom i Filetus.
16Canys barnasai Paul yn dda hwylio heibio i Effesus, rhag bod iddo dreulio amser yn Asia; canys brysio yr oedd i fod yng Nghaersalem, os oedd bosibl, erbyn dydd y Sulgwyn.
17Ond fe ddanfonodd o Filetus i Effesus a galwodd ato henuriaid yr eglwys.
18A phan gyraeddasant ato, fe ddywedodd wrthynt, “Gwyddoch chwi pa fodd y bûm i gyda chwi yr holl amser o’r diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia,
19yn gwasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd a dagrau a threialon, y rhai, a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon;
20y modd nad ateliais ddim a fyddai fuddiol heb ei gyhoeddi i chwi, a’ch dysgu chwi yn gyhoeddus ac o dŷ i dŷ,
21gan ddwys dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am yr edifeirwch tuagat Dduw a ffydd yn ein Harglwydd, Iesu.
22Ac yn awr dyma fi, yn rhwym fy ysbryd, yn cyrchu i Gaersalem, heb wybod yr hyn a gyferfydd â mi yno,
23oddieithr bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu’n groyw i mi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.
24Ond ni chyfrifaf mo’m bywyd yn werthfawr i mi fy hun, er mwyn gorffen fy rhedegfa a’r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i ddwys dystiolaethu am efengyl gras Duw.
25Ac yn awr dyma fi’n gwybod na welwch chwi mwyach fy wyneb, chwi oll y bûm i ’n teithio yn eich plith gan gyhoeddi’r deyrnas;
26felly tystiaf i chwi y dydd heddiw, glân ydwyf oddiwrth waed pawb,
27canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.
28Gofelwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y’ch dododd yr Ysbryd Glân chwi yn eu plith yn arolygwyr; bugeiliwch eglwys Dduw a enillodd ef
29Gwn i y daw wedi fy ymadawiad fleiddiaid blinderus i’ch plith, nad arbedant y praidd,
30ac o’ch plith chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws i dynnu’r disgyblion ymaith ar eu hôl.
31Gan hynny byddwch yn effro, gan gofio na pheidiais dros dair blynedd nos a dydd â rhybuddio pob un gyda dagrau.
32Ac yr awron cyflwynaf chwi i’r Arglwydd ac i air ei ras, a ddichon adeiladu a rhoddi’r etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a santeiddiwyd.
Deut. 33:3–4.33Arian neu aur neu ddillad neb ni chwenychais;
34gwyddoch chwi eich hunain i’r dwylo hyn wasanaethu i’m rheidiau i ac i’r rhai a oedd gyda mi.
35Ym mhob peth dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae’n rhaid cynorthwyo’r gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono, ‘Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.’ ”
36Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe benliniodd, a gweddïodd gyda hwynt oll.
37Ac wylo llawer a wnaeth pawb, a syrthio ar wddw Paul a’i gusanu,
38gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai, nad oeddynt mwyach i weled ei wyneb. Ac aethant i’w hebrwng ef i’r llong.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.