Luc 13 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A daeth rhywrai’r pryd hwnnw, a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â’u haberthau.

2Ac atebodd iddynt, “A dybiwch fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r Galileaid oll, am iddynt ddioddef y pethau hyn?

3Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, fe’ch difethir chwi oll yn gyffelyb.

4Neu’r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr yn Siloam arnynt a’u lladd, a dybiwch eu bod hwy’n droseddwyr mwy na’r holl ddynion sy’n trigo yng Nghaersalem?

5Na, meddaf i chwi; eithr oni bydd edifar gennych, fe’ch difethir chwi oll yr un modd.”

6A dywedodd y ddameg hon. “Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan, ac fe ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd.

7A dywedodd wrth y gwinllannwr, ‘Ers tair blynedd iti yr wyf yn dyfod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn a heb ei gael; tor ef i lawr; i beth hefyd y mae’n diffrwytho’r tir?’

8Ond atebodd yntau iddo, ‘Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon eto, nes imi gloddio o’i gwmpas, a bwrw tail;

9ac os dwg ffrwyth rhag llaw, da; onid e, gelli ei dorri ef i lawr.’ ”

10Yr oedd yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Sabbath.

11Ac wele wraig a chanddi ysbryd gwendid ers deunaw mlynedd, ac yr oedd hi yn ei chwman, ac ni allai ymunioni yn hollol.

12Wedi i’r Iesu ei gweled hi, galwodd arni a dywedodd wrthi, “Wraig, gollyngwyd di o’th wendid”

13a dododd ei ddwylo arni; ac yn ebrwydd ymsythodd, a dechrau gogoneddu Duw.

14Ac atebodd y pensynagogydd, yn ffyrnigo am i’r Iesu iacháu ar y Sabbath, a dywedodd wrth y dyrfa, “Chwe diwrnod sydd y dylid gweithio ynddynt; ar y rhain, ynteu, deuwch i gael meddyginiaeth, ac nid ar y dydd Sabbath.”

15Atebodd yr Arglwydd iddo, “Ragrithwyr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o’r preseb, a mynd ag ef ymaith i gael dŵr?

16Hon, a hithau’n ferch i Abraham, a rwymodd Satan, ie, ddeunaw mlynedd, oni ddylesid ei gollwng o’r rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?”

17Ac wrth iddo ddywedyd hyn cywilyddiai pawb a’i gwrthwynebai, a’r holl dyrfa a lawenychai am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo ef.

18Felly meddai, “I beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb, ac i beth y cyffelybaf hi?

19Cyffelyb yw i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i fwrw i’w ardd, a chynyddodd ac aeth yn bren, ac adar yr awyr a nythodd yn ei gangau.”

20A dywedodd drachefn, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21Cyffelyb yw i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.”

22A thramwyai trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, ar ei ffordd tua Chaersalem.

23A dywedodd rhywun wrtho, o “Arglwydd, ai ychydig yw’r rhai sy’n cael eu cadw?” Dywedodd yntau wrthynt,

24“Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r drws cul; canys llawer, meddaf i chwi, a gais fyned i mewn, ac ni lwyddant.

25Wedi i ŵr y tŷ gyfodi a chau’r drws, ac i chwithau ddechrau sefyll oddi allan a churo’r drws gan ddywedyd, ‘Arglwydd, agor i ni’ ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, ‘Ni’ch adwaen chwi, o ba le yr ydych,’

26yna chwi ddechreuwch ddywedyd, ‘Bwytasom ac yfasom yn dy ŵydd, a dysgaist yn ein heolydd ni’;

27ac fe ddywed wrthych, ‘Ni wn o ba le yr ydych; ymadewch oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder.’

28Yno y bydd yr wylofain a’r rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac ac Iacob a’r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau yn cael eich bwrw allan.

29A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin ac o’r gogledd a’r dehau, ac eisteddant wrth y bwrdd yn nheyrnas Dduw.

30Ac wele, y mae rhai yn olaf a fydd yn flaenaf, ac y mae rhai yn flaenaf a fydd yn olaf.”

31Y pryd hwnnw daeth rhai Phariseaid ato, a dywedyd wrtho, “Dos ymaith, a cherdd oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.”

32A dywedodd wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu cleifion heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd fe’m perffeithir.

33Eithr rhaid i mi deithio heddiw ac yfory a thrennydd, canys ni all y derfydd am broffwyd allan o Gaersalem.

34Gaersalem, Gaersalem, ti sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!

35Wele, eich tŷ chwi a adewir. Ac meddaf i chwi, ni’m gwelwch i nes daw’r amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help