1Yna cyffelybir teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod y priodfab.
2Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall.
3Canys cymerodd y rhai ffôl eu lampau heb gymryd olew gyda hwynt;
4eithr cymerodd y rhai call olew yn y llestri gyda’u lampau.
5A phan oedd y priodfab yn oedi, hepiasant oll a syrthio i gysgu.
6Ac ar ganol nos daeth gwaedd, ‘Dyma’r priodfab, ewch allan i’w gyfarfod.’
7Yna cododd yr holl forynion hynny, a chyweirio eu lampau.
8A dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch i ni beth o’ch olew, achos y mae’n lampau ni yn diffodd.’
9Ond atebodd y rhai call, ‘Efallai na bydd dim digon i ni ac i chwithau; gwell ichwi fynd at y gwerthwyr a phrynu i chwi eich hunain.’
10A phan oeddent ar eu ffordd i brynu, daeth y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i’r neithior, a chaewyd y drws.
11Wedyn daw’r morynion eraill, a dywedyd, ‘Syr, syr, agor i ni.’
12Atebodd yntau, ‘Yn wir meddaf i chwi, ni’ch adwaen chwi.’
13Felly byddwch effro, am na wyddoch y dydd na’r awr.
14Canys y mae fel dyn yn mynd oddi cartref, a alwodd ei weision a rhoi i’w gofal ei eiddo;
15ac i un fe roes bum talent, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac aeth oddi cartref.
16Yn y fan aeth yr un a gawsai’r pum talent i farchnata â hwynt, ac enillodd bump eraill;
17yr un modd yr un a gawsai’r ddwy, enillodd ddwy eraill;
18ond yr un a gawsai’r un a aeth ymaith i gloddio pwll, a chuddiodd arian ei arglwydd.
19Ac wedi talm o amser daw arglwydd y gweision hynny a gwneuthur cyfrif gyda hwynt.
20A daeth ato’r un a gawsai’r pum talent a dwyn pum talent eraill, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, pum talent a roddaist i’m gofal; dyma bum talent eraill a enillais.’
21Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’
22Daeth ato hefyd yr un a gawsai’r ddwy dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, dwy dalent a roddaist i’m gofal; dyma ddwy dalent eraill a enillais.’
23Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’
24A daeth ato hefyd yr un a gawsai’r un dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, deellais dy fod yn ddyn caled, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu o’r lle ni wasgeraist;
25a daeth ofn arnaf, ac euthum a chuddio dy dalent yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo.’
26Ond atebodd ei arglwydd iddo, ‘Was drwg a diog, ti wyddit, ai e, fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu o’r lle ni wasgerais?
27Felly ti ddylasit osod fy arian gyda’r arianwyr, a minnau a ddaethwn ac a gawswn fy eiddo yn ôl gyda llog.
28Felly cymerwch y dalent oddi arno, a rhowch i’r hwn sydd ganddo’r deg talent.
29Canys i’r neb sydd ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon; ond y neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymerir oddi arno.
30Ac am y gwas anfuddiol, bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.’
31Pan ddêl Mab y dyn yn ei ogoniant a’r holl angylion gydag ef, yna yr eistedd ar ei orsedd ogoneddus;
32a chesglir ger ei fron yr holl genhedloedd, a didola ddynion oddi wrth ei gilydd, fel y bydd bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr,
33a gesyd y defaid ar ei law ddehau, a’r geifr ar yr aswy.
34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei law ddehau, ‘Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas sydd wedi ei pharatoi i chwi er seiliad byd.
35Canys daeth arnaf newyn a rhoesoch imi fwyd, daeth arnaf syched a rhoesoch ddiod imi, dyn dieithr oeddwn a rhoesoch groeso imi,
36noeth a gwisgasoch fi, clafychais ac ymwelsoch â mi, yr oeddwn yng ngharchar a daethoch ataf.’
37Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti?
38A pha bryd y’th welsom yn ddyn dieithr a rhoi croeso iti, neu’n noeth a’th wisgo?
39A pha bryd y’th welsom yn glaf neu yng ngharchar a dyfod atat?’
40Ac etyb y Brenin iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’m brodyr lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch.’
41Yna y dywed wrth y rhai ar yr aswy, ‘Ewch oddi wrthyf dan felltith i’r tân tragwyddol a baratowyd i’r diafol a’i angylion.
42Canys daeth newyn arnaf ac ni roesoch imi fwyd, daeth syched arnaf ac ni roesoch ddiod imi,
43dyn dieithr oeddwn ac ni roesoch groeso imi, noeth ac ni’m gwisgasoch, claf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’
44Yna yr atebant hwythau, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog neu’n sychedig neu’n ddyn dieithr neu’n noeth neu’n glaf neu yng ngharchar heb weini iti?’
45Yna yr etyb iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint ag nas gwnaethoch i un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.’
46Ac â’r rhain ymaith i gosbedigaeth dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.