1Gan hynny cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist a gorchwylwyr ar ddirgel bethau Duw.
2Felly yr ydys yn disgwyl, fel peth anhepgor mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon.
3Ond o’m rhan i, bychan iawn o beth yw fy marnu gennych chwi, neu ger bron brawdle dyn: ac nid wyf fi yn fy marnu fy hun chwaith.
4Canys nid oes dim ar fy nghydwybod i; eithr yn hyn ni’m cyfiawnhawyd, ond yr hwn a’m barn i yw yr Arglwydd.
5Gan hynny, na fernwch ddim cyn pryd, hyd oni ddêl yr Arglwydd, yr hwn hefyd a oleua gudd bethau’r tywyllwch a dadlennu bwriadau’r calonnau, ac yna y daw’r glod i bob un gan Dduw.
6Y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais i ataf fy hun ac at Apolos o’ch achos chwi, fel y dysgech ynnom ni y gair hwnnw, “nid dim dros ben yr hyn a sgrifennwyd,” fel nad ymchwyddo neb dros un yn erbyn arall.
7Canys pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? Beth sydd gennyt nas derbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti megis pe bait heb dderbyn?
8Dyma chwi eisoes wedi’ch diwallu, dyma chwi eisoes wedi ymgyfoethogi; hebom ni, dyma chwi wedi dyfod i’ch teyrnas, — ac och Dduw! na ddeuthech i’ch teyrnas, fel y teyrnasem ninnau hefyd gyda chwi.
9Canys, i’m tyb, fe’n dynododd Duw ni, apostolion, yn olafiaid, fel rhai wedi eu bwrw i farw, canys fe’n gwnaethpwyd yn ddrych i’r byd, i angylion ac i ddynion.
10Ffyliaid ydym ni er mwyn Crist, ond chwychwi, doethion ydych yng Nghrist; nyni yn weiniaid, chwithau’n gryfion; chwychwi yn ogoneddus, ninnau’n ddirmygedig.
11Hyd yr ennyd hon y mae arnom ni newyn a syched, noethion ydym, fe’n cernodir, digartref ŷm
12a blin gan lafur ein dwylo ein hunain; pan ddifenwer ni, bendithio a wnawn; pan erlidier ni, goddef a wnawn;
13pan gabler ni, dywedyd yn deg a wnawn; fel golchion y byd y’n gwnaethpwyd ni, fel creifion pob dim hyd yma.
14Nid i beri cywilydd i chwi yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i’ch darbwyllo fel fy mhlant annwyl.
15Canys od oes i chwi filoedd ar filoedd o baedagogiaid yng Nghrist, eto nid oes i chwi lawer o dadau, canys yng Nghrist Iesu, trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlodd.
16Am hynny erfyniai arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.
17Oblegid hyn yr anfonais atoch Dimotheos, yr hwn yw fy mab annwyl a ffyddlon yn yr Arglwydd, a’r hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, megis yr wyf yn addysgu ymhobman, ymhob eglwys.
18Ond fel pe na bawn i yn dyfod atoch, fe ymchwyddodd rhai;
19eithr dyfod atoch a wnâi ar fyr, os myn yr Arglwydd, a gwybyddaf nid ymadrodd y chwyddedigion, ond eu nerth,
20canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn nerth.
21Beth a fynnwch? Ai dyfod ohonof atoch â gwialen, ai ynteu â chariad ac ysbryd addfwynder?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.